Ymgyrch Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol a Rheolaeth drwy Orfodaeth #BywHebOfn
Diolch am gefnogi ein hymgyrch ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ hyd yma. Ei nod yw hysbysu’r rhai sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth ddomestig, trais rhywiol a rheolaeth dan orfodaeth bod cymorth ar gael 24 awr y dydd, bob dydd, drwy Byw Heb Ofn.
Mae angen eich cymorth parhaus arnom i gyrraedd at unrhyw un sydd mewn sefyllfa i helpu’r rhai allai fod mewn perygl, gan gynnwys teulu, ffrindiau, darparwyr gwasanaethau a gwirfoddolwyr.
Mae sawl ffordd o gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn i gael cymorth a chefnogaeth – dros y ffôn ar 0808 8010800, sgwrsio byw, negeseuon testun neu e-bost. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’r cyfnod ymgyrchu hwn yn cynnwys hysbysebu ar y teledu (ITV, Sky AdSmart ac S4C), ar sianelau radio rhanbarthol a chymunedol, y wasg, y cyfryngau cymdeithasol a sianelau digidol. Byddwn hefyd yn hysbysebu’r ymgyrch ar fagiau fferyllfeydd ar gyfer meddyginiaethau.
Rydym wedi datblygu animeiddiad sy’n rhoi cipolwg ar sefyllfaoedd a’r materion lle gall Byw Heb Ofn fod o gymorth. Rydym hefyd wedi diweddaru ein ‘Pecyn Partner’, ac unwaith eto rydym am hyrwyddo’r ddolen at yr hyfforddiant ar-lein sydd ar gael, y mae cynifer wedi ei ddilyn bellach.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://llyw.cymru/byw-heb-ofn/cadw-eich-hun-yn-ddiogel-yn-ystod-argyfwng-y-coronafeirws
Sut y Gallwch Chi Helpu
- Rhannu’r negeseuon sydd ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol: Twitter a Facebook
- Tagio’r ymgyrch yn eich negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #BywHebOfn #LiveFearFree
- Ar eich gwefan, yn eich cylchlythyron a’ch negeseuon e-bost, a thrwy lawrlwytho ac arddangos posteri a delweddau ar sgriniau digidol wrth i ardaloedd agor i’r cyhoedd.
- Cwblhau’r modiwl e-ddysgu VAWDASV ac annog eraill i wneud hynny hefyd.
Os oes angen yr wybodaeth arnoch ar fformat wahanol, cysylltwch â ni: VAWDASV@llyw.cymru
Gellir lawrwytho holl ddeunyddiau’r ymgyrch (jpegs, posteri a negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol) yma: https://llyw.cymru/ddylai-neb-deimlon-ofnus-gartre-deunyddiau
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English
Gadael Sylw