DIM ESGUS – RHAGFYR 2021 VAWDASV

Hannah Cassidy

Rydym yn parhau i glywed adroddiadau am fenywod a merched ifanc yn cael eu haflonyddu’n rhywiol ar strydoedd Cymru. Peidiwch â chamgymryd, mae hwtian, chwibanu, stelcio a gwneud sylwadau rhywiol yn fathau o aflonyddu rhywiol ac ni ddylid eu goddef. Gellir atal pob math o drais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched.

Nod y cam ‘DIM ESGUS’ o’n hymgyrch ‘Paid â gwneud hwn yn lle i’w ofni’ yw ceisio codi ymwybyddiaeth o stelcian, aflonyddu, trais a chamdriniaeth yn erbyn menywod, ble bynnag y bônt. Ar y stryd. Mewn bar. Tra byddant yn ymarfer corff. Ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Rydym eisiau tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael a rhoi cyngor ymarferol i’r rhai a allai fod yn profi aflonyddu rhywiol, stelcian neu gamdriniaeth, neu sydd wedi eu profi. Rydym eisiau helpu pobl eraill sy’n bresennol i adnabod yr ymddygiadau hyn a gweithredu’n ddiogel os byddant yn eu gweld. Rydym eisiau i’r rhai sy’n cyflawni’r ymddygiadau hyn fyfyrio ar eu gweithredoedd a sylweddoli eu bod yn annerbyniol. A, phan fydd hynny’n ddiogel, rydym eisiau i gyfoedion herio ymddygiad amhriodol eu ffrindiau. Felly, mae’n hanfodol ein bod ni ond yn herio ymddygiadau ac agweddau amharchus neu niweidiol yn y ffyrdd sy’n fwyaf diogel i ni, a phawb sy’n gysylltiedig.

Gwybodaeth i bartneriaid

Ymgyrch gyfathrebu integredig ar draws Cymru gyfan yw hon, gyda thair ffrwd o weithgarwch rhwng 10 Rhagfyr 2021 ac 20 Mawrth 2022. Yn ogystal â negeseuon cyffredinol, mae’r ymgyrch hefyd yn canolbwyntio ar ymddygiadau sy’n digwydd yn y nos, wrth ymarfer corff ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Rydym yn rhoi hysbysebion ar Spotify, ar y radio, ac ar sianeli digidol a chyfryngau cymdeithasol. Mae gennym hefyd faniau hysbyseb yn Abertawe, Caerfyrddin a Chasnewydd ddydd Gwener 17 Rhagfyr rhwng 7pm – 2am.

Rydym am i bobl ddysgu mwy drwy fynd i wefan yr ymgyrch – http://llyw.cymru/dimesgus

Bydd cael eich help chi i rannu negeseuon yr ymgyrch yn ein galluogi i godi ymwybyddiaeth o’r mater a’r cymorth a’r cyngor sydd ar gael drwy rannu gwybodaeth ar draws eich sianeli a’ch rhwydweithiau.

Mae’r pecyn partner hwn yn cynnwys yr asedau creadigol a’r negeseuon ar gyfer y ffrwd gyntaf, sy’n canolbwyntio ar economi’r nos yn ystod tymor yr ŵyl, tra bod pobl allan yn dathlu’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. GALLWCH LAWRLWYTHO ASEDAU’R YMGYRCH YMA.

Rydym wedi cynnwys negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn y pecyn hwn. Os ydych chi’n rhannu negeseuon, defnyddiwch hashnod yr ymgyrch #Dimesgus.

Sut y gallwch gefnogi’r ymgyrch

  • Rhannu ac aildrydar negeseuon o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol: Twitter a Facebook
  • Tagio’r ymgyrch yn eich negeseuon cyfryngau cymdeithasol eich hun gan ddefnyddio #Dimesgus
  • Sôn am yr ymgyrch ar eich gwefan ac mewn cylchlythyrau ac e-byst a hefyd lawrlwytho ac arddangos posteri a rhannu delweddau ar sgriniau digidol mannau sydd ar agor i’r cyhoedd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, os oes arnoch angen cymorth ar ymateb i sylwadau ar bostiadau a rennir, neu os hoffech drafod cyfleoedd penodol i ni rannu’r ymgyrch, cysylltwch â ni drwy e-bostio VAWDASV@llyw.cymru

Leave a Comment