Diwrnod Cenedlaethol Codi Ymwybyddiaeth o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Hannah Cassidy

Image of Stop CSE Poster

Ymunwch â ni yn y frwydr yn erbyn camfanteisio’n rhywiol ar blant

Mae elusen genedlaethol NWG Network yn gofyn i ni ymuno gyda’n gilydd i frwydro yn erbyn camfanteisio’n rhywiol ar blant ar gyfer eu Diwrnod Codi Ymwybyddiaeth o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant ar 18 Mawrth 2018.

Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn fath o gamdriniaeth rywiol sy’n cynnwys dylanwadu ar a/neu orfodi pobl ifanc dan 18 oed i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol.

Nod Diwrnod Cenedlaethol Codi Ymwybyddiaeth o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant yw amlygu’r materion sy’n ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant ac annog pawb i feddwl, sylwi a siarad am gamdriniaeth a pheidio â goddef unrhyw oedolyn sy’n datblygu perthnasau amhriodol gyda phlant.

Mae diwrnodau codi ymwybyddiaeth blaenorol wedi cynnwys cannoedd o ddigwyddiadau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, o arddangosfeydd gyda phosteri a thaflenni i awdurdodau cyfan yn cynnal ymgyrchoedd penodol ar draws gwasanaethau cyhoeddus a chanolfannau siopa a– a gweithio gyda thros 11,000 o weithwyr proffesiynol i helpu i atal a chodi ymwybyddiaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blant.

Mae Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru yn cefnogi’r diwrnod codi ymwybyddiaeth hwn ac yn annog pob asiantaeth partner i godi ymwybyddiaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blant o fewn eu sefydliadau ar y diwrnod hwn.

NWG-Awareness-Day-Poster-1-Welsh

NWG-Awareness-Day-Poster-2-Welsh-1

Gadael sylw