Cynhelir Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn fyd-eang bob blwyddyn i annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio technoleg ddigidol mewn modd diogel a chadarnhaol, ac i ysgogi sgwrs genedlaethol am ddefnyddio technoleg mewn modd cyfrifol, parchus, beirniadol a chreadigol.
Cynhelir Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar 8 Chwefror eleni. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU i gynllunio ymgyrch gyffrous ac amserol ar sail thema’r DU, sef archwilio parch a pherthynas ar-lein.
Lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel flynyddol i blant a phobl ifanc ym mis Tachwedd, a oedd yn eu herio i ddefnyddio eu hawen a chreu ffilm fer am barch ar-lein. Bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn cyhoeddi enillwyr y gystadleuaeth ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel drwy Hwb, a bydd cyfle ichi glywed gan Gomisiynydd Plant Cymru hefyd.
Mae pecynnau addysg dwyieithog ar gael hefyd i’ch helpu i gynnal gweithgareddau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn eich ysgol. Mae hefyd nifer o gynlluniau gwersi, gweithgareddau, taflenni gwaith a gemau ar Hwb y gellir eu defnyddio fel rhan o’ch dathliadau Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.
Gallwch rannu eich gweithgareddau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a gweld yr hyn y mae sefydliadau eraill ledled Cymru yn ei wneud gan ddefnyddio’r hashnod #SIDCymru. Mae modd dilyn ein gweithgareddau a’n tagio ni drwy ddefnyddio @HwbNews. I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ewch i https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/diwrnod-defnyddior-rhyngrwyd-yn-fwy-diogel/


