Diwrnod Rhyngwladol Plant Coll

Hannah Cassidy

Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Plant Coll – Mae Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru yn hybu ymwybyddiaeth o amgylch pwysigrwydd dilyn canllawiau ymarfer Diogelu plant sy’n mynd ar goll o gartref neu ofal Cymru.Mae’r canllawiau hyn yn  bennaf ar gyfer ymarferwyr amlasiantaeth sy’n gweithio gyda phlant (hyd at 18 oed).

Data allweddol o Gymru / Lloegr a’r Alban

Mae plant sy’n derbyn gofal yn mynd ar goll o ofal ar gyfradd uchel iawn. Cyfradd llawer uwch na’r boblogaeth gyffredinol o blant:

  • Mae 1 mewn 10 o blant sy’n derbyn gofal yn mynd ar goll o ofal, o’i gymharu â 1 mewn 200 nad ydynt mewn gofal.

Mae cyfraddau mynd ar goll ymysg 3 grŵp penodol o blant sy’n derbyn gofal yn hynod o frawychus.

Plant sy’n cael eu hecsbloetio

  • Aeth 48% o blant sy’n derbyn gofal a nodwyd fel plant sy’n cael eu hecsbloetio ar goll yn 2020.
  • Ar gyfartaledd, aeth pob un o’r plant hynny ar goll 10.6 gwaith y flwyddyn.

Plant wedi’u Masnachu

  • Aeth 31% o blant sy’n derbyn gofal a nodwyd fel dioddefwyr masnachu ar goll yn 2020.
  • Ar gyfartaledd, aeth pob un o’r plant hynny ar goll 8 gwaith y flwyddyn.

Plant ar eu pen eu hunain

  • Aeth 13% o blant sy’n derbyn gofal a nodwyd fel plant ar ben eu hunain ar goll yn 2020.
  • Ar gyfartaledd, aeth pob un o’r plant hynny ar goll 2.5 gwaith y flwyddyn.

Pam fod ffigyrau mynd ar goll ar gyfer plant sy’n derbyn gofal mor uchel?

Mae nifer o resymau pam fod plant mewn gofal yn mynd ar goll, ond mae’r plant hyn yn llawer mwy tebygol o wynebu niwed sy’n gysylltiedig â mynd ar goll. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Problemau iechyd meddwl.
  • Ecsbloetiaeth a Masnachu

Gweler ynghlwm Ganllawiau Ymarfer Diogelu plant sy’n mynd ar goll o gartref neu ofal Cymru:

Social care Wales (diogelu.cymru)

Leave a Comment