Mae 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i hawliau plant yng Nghymru. O’r diwrnod hwn ymlaen, bydd cosbi plant yn gorfforol yn erbyn y gyfraith yng Nghymru.
Cynhaliodd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru gyfarfod pellach â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru i drafod gwaith codi ymwybyddiaeth sydd wedi dechrau, a bydd hyn yn parhau am yr ychydig fisoedd nesaf. Bydd llawer o ddeunydd ar gael i fyrddau diogelu ar draws Cymru ac mae ymgyrchoedd wedi’u targedu ar waith ar gyfer adrannau arbennig o’r boblogaeth. Un maes a fydd yn cael effaith ar Ogledd Cymru yw nifer y twristiaid a fydd yn dod i mewn i’r rhanbarth nad ydynt yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth yng Nghymru. Mae’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar lefel genedlaethol eisoes yn ystyried sut y gallwn godi ymwybyddiaeth am y mater hwn.
Bydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru yn cynnal digwyddiad cenedlaethol gyda phanel o arbenigwyr dethol er mwyn rhoi cyfle i ymarferwyr amlasiantaeth ofyn cwestiynau yn ystod wythnos diogelu.
A fyddech cystal â rhannu’r ddolen hon â’ch rhwydweithiau – deunydd gwybodaeth sydd eisoes ar gael:


