Dull Gwella: Adroddiad Gwerthuso

Hannah Cassidy

Roedd Gwella yn brosiect ymchwil ac ymarfer arloesol pedair blynedd wedi’i gynnal mewn partneriaeth rhwng Barnardo’s Cymru a Phrifysgol Caerdydd, ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy.

Mae prosiect Gwella wedi ceisio datblygu model ymyriadau cynharach sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y gweithlu aml-asiantaeth sy’n gweithio gyda phlant sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod. Mae’n cynnwys nifer o egwyddorion gyda sylfaen dystiolaeth sefydledig, fel gweithio aml-asiantaeth, ymarfer perthynol, cefnogi datblygiad plant iach ac ymgynghori a goruchwylio proffesiynol. Mae hefyd yn defnyddio modelau sy’n dod i’r amlwg fel y Model Adfer ar ôl Trawma (TRM) a’r dull Chwarae, Derbyn, Chwilfrydedd ac Empathi (PACE) o gefnogi prif ofalwyr, sy’n cael ei hyrwyddo mewn Ymarfer Datblygiadol Dyadig (DDP).

Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar brofiadau pawb a oedd yn ymwneud â’r prosiect: tîm Gwella, rhieni a gofalwyr, plant, arbenigwyr ymgynghorol a gweithwyr proffesiynol allanol ym maes gofal cymdeithasol ac addysg.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yn ogystal â’i grynodeb gweithredol.

Rydym wrthi’n llunio manylion terfynol digwyddiad ar-lein lle byddwch yn gallu clywed am y prosiect, canfyddiadau’r gwerthusiad a chael gafael ar weithdai perthnasol; byddwn yn cysylltu â chi pan fydd y broses gofrestru’n cychwyn.

Os hoffech drafod dull Gwella a’r adroddiad gwerthuso ymhellach, cysylltwch â Ceri Evans ceri.evans@barnardos.org.uk a Pat Duke pat.duke@barnardos.org.uk

Gadael sylw