i-Gaffi – ‘Drink Tea Whilst Learning IT’

Bethan Jones

Datganiad i’r Wasg – Mehefin 2016

Mae’r Bwrdd wedi cael eu plesio’n arw â syniad dau ddisgybl Blwyddyn 6 o Ysgol Sant Dunawd, Bangor Is-coed yn Wrecsam.

Mae Harvey a Louis wedi cymryd rhan yn ‘The Fiver Challenge’ sef cystadleuaeth genedlaethol i ddod o hyd i’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ifanc a gynhelir gan Menter Yr Ifanc ac a gefnogir gan Virgin Money. Mae hwn wedi’i anelu at bobl ifanc 5-11 oed a’i nod yw ysbrydoli creadigrwydd a datblygu agweddau ac ymddygiad mentrus.

Mae Harvey a Louis yn mynychu Ysgol Sant Dunawd, Bangor Is-coed, Wrecsam a chawsant y syniad o greu i-Gaffi o’r enw ‘Drink Tea Whilst Learning IT’.

Y syniad yw bod aelodau o’r gymuned leol yn mynychu’r ysgol ar fore yn ystod yr wythnos i gymdeithasu a dysgu sgiliau TG newydd – a chael eu dysgu gan y disgyblion!!!

Defnyddiodd y disgyblion yr iPads a ddarperir gan yr ysgol a gall y gymuned leol ddysgu sgiliau newydd gan fwynhau te, coffi, tost ac ati.

Mae Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion Gogledd Cymru, PC Yvette Jackson hefyd wedi mynychu ‘Drink Tea Whilst Learning IT’ yn ddiweddar i helpu i ateb unrhyw gwestiynau gan y gymuned leol ynglŷn â diogelwch ar y rhyngrwyd.

Dywedodd PC Jackson “Mae ‘Drink Tea Whilst Learning IT’ yn syniad gwych gan Harvey a Louis; mae’n dangos mentergarwch da gan y ddau. Rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am fy ngwahodd draw i roi help i addysgu aelodau’r cyhoedd am ddiogelwch y rhyngrwyd a helpu i ddarparu mwy o wybodaeth am y Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan a’r gwersi diogelwch y rhyngrwyd yr ydym yn eu darparu i ysgolion cynradd ac uwchradd”

Dywedodd Sara Lloyd-Evans, Rheolwr Busnes, Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru “Roedd y Bwrdd wedi’u plesio’n arw gyda syniad Harvey a Louis ar gyfer ‘Drink Tea Whilst Learning IT’. Mae’r math yma o weithgaredd yn dod â’r gymuned at ei gilydd a thrwy ddysgu gyda’i gilydd gall bobl addysgu eu hunain am ddiogelwch ar y rhyngrwyd. Yn aml mae plant yn deall TG yn well na’u rhieni a’u neiniau a’u teidiau ac roedd yr i-Gaffi yn syniad gwych a fyddai’n helpu i roi sgiliau i rieni a gofalwyr sydd yn y pen draw yn gyfrifol am gadw eu plant yn ddiogel ar-lein. Da iawn chi Harvey a Louis!!!!”

Dywedodd Sarah Morris, Dirprwy Pennaeth, Ysgol Sant Dunawd, Bangor is y Coed “ Fel ysgol, roeddem yn credu bod hwn yn syniad bendigedig ac rydym yn gobeithio cynnal rhywbeth tebyg yn Mis Medi 2016”

Leave a Comment