Mae’r Cod Ymarfer Diogelu hwn yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â threfniadau diogelu. Mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb.
Gwyddom y bydd unigolion, grwpiau a sefydliadau sy’n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau yn gweld manteision clir dilyn y cyngor hwn. Bydd hyn yn dangos bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch plant ac oedolion sy’n wynebu risg.
Ledled Cymru, mae unigolion, grwpiau a sefydliadau yn cynnig ystod gyfoethog ac amrywiol o weithgareddau a gwasanaethau i bobl eu mwynhau. Gall hyn amrywio o grwpiau cymdeithasol mwy anffurfiol i weithgarwch sy’n cynorthwyo plant neu oedolion i fwynhau chwaraeon, meithrin sgiliau newydd neu rannu diddordeb, i weithgarwch a gynigir gan grwpiau ffydd.
Mae rhai unigolion, grwpiau a sefydliadau yn gysylltiedig â chyrff cenedlaethol sy’n cynnig cymorth gyda diogelu, maent wedi’u cofrestru gyda’r cyrff hyn, neu’n cael eu hariannu ganddynt. Dylai hyn gynnwys polisïau, hyfforddiant a phrosesau i sicrhau bod pobl yn ddiogel pan fyddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau neu wasanaethau. Mae llawer o gynlluniau achredu diogelu, marciau ansawdd a chodau yn bodoli ar gyfer mathau penodol o leoliadau (lleoedd lle cynigir gweithgareddau). Mae deddfwriaeth ar waith yng Nghymru sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ddiogelu pobl rhag niwed. Lle caiff gwasanaethau eu comisiynu (ariannu) gan gyrff cyhoeddus, mae gofynion cytundebol i gael trefniadau diogelu ar waith.
Fodd bynnag, ni fydd pob unigolyn, grŵp neu sefydliad yn gallu cael gafael ar gymorth i weithredu’n ddiogel fel hyn. Mae’n bosibl na fydd rhai yn sylweddoli pa mor bwysig yw cael trefniadau diogelu ar waith, ac mae’n bosibl na fydd rhai yn gwybod ble i droi am gyngor a chymorth.
Rhaeadrwch i’ch rhwydweithiau os gwelwch yn dda.
https://llyw.cymru/gweithio-gydan-gilydd-i-ddiogelu-pobl-cod-ymarfer-diogelu


