Ynglŷn â Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru ar y Cyd

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru ar y Cyd

Bydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru ar y Cyd yn gweithio o fewn swyddogaethau a chyfrifoldebau craidd Bwrdd Diogelu fel mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn eu nodi:

a) Cyfrannu tuag at sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol yn cael eu monitro ac yn parhau’n addas i’r diben, drwy ymgysylltu gyda’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a Byrddau Diogelu eraill, a chyfrannu at ddatblygu polisïau a gweithdrefnau i gydlynu beth sy’n cael ei wneud gan bartneriaid a chyrff a gynrychiolir ar y Bwrdd at bwrpas gwarchod oedolion a phlant ac atal camdriniaeth, esgeulustod, a mathau eraill o niwed i blant ac oedolion o fewn ardal y Bwrdd.

b) Codi ymwybyddiaeth drwy ardal y Bwrdd o amcanion y Bwrdd i warchod ac atal oedolion a phlant rhag bod mewn peryg o gamdriniaeth, esgeulustod a ffurfiau eraill o niwed, a darparu gwybodaeth am sut mae modd cyflawni hynny.

c) Adolygu effeithiolrwydd mesurau mae partneriaid y Bwrdd Diogelu a chyrff a gynrychiolir ar y Bwrdd yn eu cymryd, a chyrff sydd â chyfrifoldebau diogelu o fewn ardal y Bwrdd, un ai’n unigol neu ar y cyd, i weithredu amcanion y Bwrdd a gwneud pa bynnag argymhellion mae’n eu gweld yn addas i’r cyrff hynny o ganlyniad i adolygiad o’r fath.

d) Cynnal Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl.

e) Cynnal archwiliadau, adolygiadau ac ymchwiliadau sydd eu hangen yn unol â’i amcanion; i fonitro i ba raddau mae unrhyw argymhellion a wneir dan baragraff (c) neu (d) yn cael neu wedi cael eu bodloni.

f) Adolygu perfformiad y Bwrdd a’i bartneriaid a’r cyrff a gynrychiolir ar y Bwrdd o ran cyflawni ei amcanion.

g) Rhannu gwybodaeth am arferion gorau a’r hyn a ddysgwyd o adolygiadau dan baragraff (d) neu (e), i rannu gwybodaeth gydag aelodau’r Bwrdd, Byrddau Diogelu eraill y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, a phlant ac oedolion sydd yn, neu a allai gael eu heffeithio drwy arfer swyddogaethau’r Bwrdd Diogelu, a dod o hyd i faterion sy’n dod i’r amlwg a allai effeithio ar gyflawni amcanion y Bwrdd a’u hystyried ac ymateb iddynt.

h) Hwyluso ymchwil i warchod plant ac oedolion sydd mewn peryg o niwed rhag camdriniaeth ac esgeulustod a’i atal.

i) Adolygu anghenion hyfforddiant yr ymarferwyr hynny sy’n gweithio yn ardal y Bwrdd er mwyn pennu gweithgareddau hyfforddi a darparu hyfforddiant a sicrhau y caiff ei ddarparu rhwng asiantaethau ac i asiantaethau unigol er mwyn cynorthwyo i atal a gwarchod plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed yn ardal y Bwrdd rhag camdriniaeth ac esgeulustod.

j) Gweithredu ar y cyd â Bwrdd neu Fyrddau eraill neu gyrff tebyg eraill yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, neu awdurdodaethau eraill, lle mae’r Bwrdd yn ystyried y bydd yn ei gynorthwyo i gyflawni ei amcanion.

k) Ceisio cyngor neu wybodaeth arbenigol lle mae’r Bwrdd yn credu bod hynny’n berthnasol i’w gynorthwyo i weithredu ei amcanion.

l) Ymateb i unrhyw hysbysiad i’r Bwrdd ynghlwm ag unrhyw rai o’i swyddogaethau.

m) Cymryd rhan yn unrhyw weithgarwch arall sy’n hwyluso neu sy’n arwain at gyflawni ei amcanion.

Gadael sylw