Holiadur Cynaliadwyedd y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bethan Jones

Ar hyn o bryd mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar Gynaliadwyedd y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Maent yn awyddus i glywed gan y rhai sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn cael gwybod mwy am y materion y maent yn eu hwynebu ac mae holiadur ar-lein wedi cael ei ddarparu i glywed eich barn.

Bydd yr holiadur yn gofyn i chi am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys eich rhesymau dros weithio o fewn Gofal Cymdeithasol, eich barn ar hyfforddiant ac addysg a’ch blaenoriaethau yn y dyfodol o ran darparu gofal / gwasanaethau.

Bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi’n syth at yr holiadur

Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau fydd dydd Gwener 9 Medi, 2016.

Leave a Comment