Hunan-Esgeulustod a Chelcio

Hunan –Esgeulustod:

Mae hunan esgeulustod yn fethiant gan oedolyn i gymryd gofal ohono/ohoni ei hun, neu mae’n debygol o fewn rheswm i achosi niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol difrifol mewn cyfnod byr o amser neu ddifrod i asedau neu golli asedau.

Gall hunan-esgeulustod ddigwydd o ganlyniad i ffordd o fyw’r unigolyn neu o bosib ei fod:

  • yn dioddef ag iselder,
  • yn dioddef ag iechyd gwael,
  • yn dioddef â phroblemau gwybyddol (y cof neu wneud penderfyniadau, neu
  • ei fod yn methu â gofalu amdano ei hun yn gorfforol.

Mae hunan-esgeulustod yn cynnwys:

  • byw mewn amgylchiadau hynod aflan
  • dioddef o salwch, anaf neu glefyd sydd heb ei drin
  • dioddef o ddiffyg maeth i’r fath raddau y byddai, heb ymyrraeth, yn debygol o effeithio ar iechyd corfforol neu feddyliol yr unigolyn.
  • creu sefyllfa beryglus a fydd yn debygol o achosi niwed corfforol difrifol i’r unigolyn neu eraill neu achosi difrod sylweddol i asedau neu golli asedau, a
  • dioddef o salwch, anaf neu glefyd sy’n achosi i’r unigolyn ddelio â’i asedau mewn modd sy’n debygol o achosi difrod sylweddol i’r asedau hynny neu arwain at eu colled. ­­

Erthyglau Cysylltiedig:

https://www.theguardian.com/social-care-network/2014/jan/28/dismissing-self-neglect-unacceptable

http://www.communitycare.co.uk/2016/09/28/self-neglect-someone-safeguard-elsies-story/

Celcio:

“Mae’r Protocol Celcio yn darparu fframwaith ar gyfer gofal cymdeithasol ac asiantaethau perthnasol er mwyn gweithio mewn partneriaeth gan defnyddio model sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn seiliedig ar atebion. Mae’r protocol yn cynnig canllaw clir ar gyfer staff sydd gweithio gyda pobl sydd yn celcio.”

Ystyrir celcio’n broblem sylweddol:

  • pan fo’r llanast yng nghartref yr unigolyn yn gwaethygu
  • pan fo’r unigolyn yn casglu mwy o bethau bob dydd ac yn gwrthod cael gwared ar bethau eraill
  • pan fo’r blerwch yn ymyrryd â bywyd bob dydd – er enghraifft, nid yw’r unigolyn yn gallu defnyddio’r gegin neu’r ystafell ymolchi ac yn methu cael mynediad i ystafelloedd.

Yn aml, gall unigolyn â phroblemau celcio ddioddef ag anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) a allai fod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r broblem o gelcio. Mae celcio yn aml yn gysylltiedig â gor-bryder ac iselder.

Mae celcio obsesiynol yn broblem anodd iawn i’w thrin gan nad yw llawer o’r unigolion sy’n dioddef yn sylweddoli ar y broblem, nid ydynt yn ymwybodol o’u hanhwylder a sut mae’r anhwylder hwnnw yn effeithio ar eu bywydau.

Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn i annog celciwr i ofyn am gymorth, gan y gall ei obsesiwn achosi risg iechyd a diogelwch yn ogystal â theimladau o unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl. Os nad yw’r unigolyn yn mynd i’r afael â’r broblem, nid yw’n debygol o wella.

Beth sy’n achosi unigolyn i gelcio?

Nid ydym yn llwyr ddeall y rhesymau dros ddechrau celcio. Fodd bynnag, mae’r broblem yn dueddol o barhau oherwydd:

  • bod yr unigolyn yn ei chael yn anodd cael gwared ar bethau
  • bod gan yr unigolyn broblemau â threfnu, trefniant a gwneud penderfyniadau
  • bod yr unigolyn yn cael gafael ar fwy o bethau na mae’n eu gwared.

Bydd yr unigolyn hefyd â chredoau megis:

  • efallai y byddaf angen hwn un diwrnod
  • pe bawn yn cael gwared ar hwn, ni fyddwn yn gallu ymdopi â’r teimlad o golled
  • bydd prynu hwn yn fy ngwneud i’n hapus iawn

Mae ymdrechion i gael gwared ar bethau yn aml yn ysgogi emosiynau cryf  a all deimlo’n llethol, felly mae’r unigolyn yn dueddol o osgoi gorfod gwneud penderfyniadau am y pethau y gellir eu taflu.

Yn aml, nid oes unrhyw werth ariannol i’r pethau sy’n cael eu cadw a byddai’r mwyafrif ohonom yn eu hystyried yn sbwriel. Gall unigolyn feddu ar lawer o eitemau dyblyg gan nad yw’n gallu canfod yr hyn mae ei angen, neu efallai ei fod wedi storio bwyd neu ddillad “rhag ofn”.

Mae unigolyn yn fwy tebygol o fod yn gelciwr obsesiynol os:

  • oes hanes teuluol o gelcio
  • yw wedi profi amddifadedd
  • cafodd ei fagu mewn tŷ blêr
  • oes ganddo gyflwr iechyd meddwl arall, megis gor-bryder, iselder neu ffobia cymdeithasol (ofn achlysuron cymdeithasol)
  • yw’n brwydro i ymdopi â digwyddiad bywyd anodd, megis marwolaeth anwylyd.
  • oes ganddo hanes o ddibyniaeth ar alcohol
  • yw’n unig (mae celcio yn gysur iddo)

Symptomau Celcio

Yn arferol, mae celciwr obsesiynol yn:

  • cadw neu’n casglu eitemau diwerth, megis post sothach a bagiau plastig neu eitemau y mae’n bwriadu eu hail-ddefnyddio neu atgyweirio.
  • ei chael hi’n anodd taflu unrhyw beth i ffwrdd ac yn symud eitemau o un pentwr i’r llall
  • ei chael hi’n anodd categoreiddio a threfnu eitemau
  • profi anawsterau wrth wneud penderfyniadau ac ymdopi â thasgau dyddiol, megis coginio, glanhau a thalu biliau
  • datblygu cysylltiad obsesiynol ag eitemau, gan wrthod gadael i unrhyw un eu cyffwrdd neu eu benthyg
  • ei chael hi’n anodd cymdeithasu ag eraill

Mae rhai astudiaethau yn awgrymu bod unigolyn yn aml yn dechrau celcio yn ei arddegau (mor ifanc â 13 neu 14 mlwydd oed), drwy gasglu eitemau megis teganau wedi malu neu bapurau ysgol. Yna, mae’r anhwylder yn gwaethygu wrth i’r unigolyn fynd yn hŷn.

Pam allai celcio obsesiynol fod yn broblem?

Mae celcio obsesiynol  yn broblem am sawl rheswm.

O bosib nad yw’r unigolyn yn gallu defnyddio’r ystafelloedd yn ei dŷ at y dibenion a fwriadwyd, neu hyd yn oed yn gallu eistedd mewn cadair heb orfod symud pethau o achos yr holl annibendod.

Mewn achosion eithafol, gall y pentyrrau o eitemau achosi risg o dân, ac achosi i’r unigolyn faglu a disgyn. Gan fod y cartref bron yn amhosibl i’w lanhau, mae’r amodau byw yn dueddol o fod yn aflan iawn a gall hyn arwain at blâu o lygod neu bryfaid, draeniau wedi’u blocio a phroblemau eraill a allai effeithio ar eiddo cyfagos.

Yn aml, mae’r unigolyn yn anfodlon croesawu neu nid yw’n bosibl iddo groesawu ymwelwyr i’w gartref, na chaniatáu i weithwyr wneud gwaith atgyweirio hanfodol.

Mae’n teimlo’n ynysig ac yn unig ac yn dueddol o ddioddef o iselder a gor-bryder. Mae hel celc o bosib yn gysur iddo, ond mewn gwirionedd mae’n anhapus.

Efallai y bydd yn anwybyddu teulu a ffrindiau yn erfyn arno i geisio cymorth, gan nad yw’n sylweddoli ar y broblem neu nid yw’n gallu wynebu’r broblem. Mae celcio yn rheoli bywyd yr unigolyn gan achosi i’w hylendid personol, perfformiad yn y gwaith a bywyd cymdeithasol ddirywio.

Astudiaethau Achos:

http://www.bbc.co.uk/news/magazine- 16299670

https://youtu.be/gxDtdrrpYAc

https://www.harleytherapy.co.uk/counselling/my-mother-the-compulsive-hoarder-a-case-study.htm

Polisi Gogledd Cymru i Gefnogi Pobl sy’n Hunan-Esgeuluso V2

Protocol Celcio