Nod y Protocol trosfwaol hwn yw sicrhau bod plant i riant/rhieni gyda salwch meddwl difrifol neu sy’n camddefnyddio sylweddau yn cael y gefnogaeth fwyaf priodol ac yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn. Mae gan asiantaethau gydgyfrifoldeb i amddiffyn plant. Mae hyn yn gofyn bod gwasanaethau’n cyfathrebu ac yn cydlynu’n effeithiol, ar lefelau strategol a gweithredol.
Mae’n hanfodol bod yr holl Asiantaethau sy’n ymwneud â’r teulu yn cydweithio a chydweithredu’n agos. Gall hyn gynnwys Gofal Cymdeithasol, Iechyd, Addysg, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a’r Sector Gwirfoddol. Mae’r Protocol hwn yn darparu’r fframwaith ar gyfer cydweithio er mwyn sicrhau bod plant sy’n byw gydag oedolion â salwch meddwl difrifol a/neu sy’n camddefnyddio sylweddau, yn cael eu diogelu yng Ngogledd Cymru.
Mae angen i’r holl asiantaethau weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth â rhieni, lle bynnag y bo’n bosibl. Polisiau a Gweithdrefnau – Plentyn
Gweler briff 7 munud hefyd – Asesiad Rhiant gyda Phroblemau Iechyd Meddwl. Briff 7 Munud