Mae’r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol yn cael eu lansio fel rhan o Wythnos Ddiogelu Genedlaethol 2022.
Mae’r safonau hyn wedi’u datblygu gan grŵp datblygu aml-asiantaeth cenedlaethol dros y 18 mis diwethaf ac wedi bod yn destun ymgynghoriad wyth wythnos.
Mae nhw’n cyd-fynd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Mae’r safonau’n nodi’r disgwyliadau o ran gwybodaeth, sgiliau, agweddau a gwerthoedd ar gyfer pobl sy’n gweithio gydag oedolion a phlant a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso.
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English
Gadael Sylw