Mae 10 Medi yn Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd

Hannah Cassidy

Beth yw Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd?

Bob blwyddyn, mae sefydliadau a chymunedau o bob cwr o’r byd yn dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o sut gallwn greu byd lle mae llai o bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad.

Mae thema a chanolbwynt gwahanol bob blwyddyn, er mwyn amlygu agwedd benodol ar atal hunanladdiad.

Pryd mae’n cael ei gynnal?

Mae Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi bob blwyddyn.

Pam ei fod yn bwysig?

Dangosodd yr ystadegau hunanladdiad diweddaraf fod mwy na 6,800 o bobl wedi marw oherwydd hunanladdiad yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon yn 2018. Mae pob bywyd a gaiff ei golli i hunanladdiad yn drasiedi.

Ac rydym yn gwybod bod modd atal hunanladdiad, nid yw’n anochel.

Ond mae stigma yn dal i fod ynghlwm wrth beidio â bod yn iawn.

Thema eleni, a fydd yn para tan 2023, yw ‘Creu Gobaith Trwy Weithredu’, a’r nod yw rhoi hyder i bobl i ymgysylltu â chymhlethdod ‘gobaith’. I gael cefnogaeth a rhagor o wybodaeth ewch i:

https://www.samaritans.org/cymru/samaritans-cymru/

Leave a Comment