Mae disgwyl i hyfforddiant sy’n cael ei ariannu gan Comic Relief gael ei gynnal yn yr hydref mewn cysylltiad â cham-fanteisio’n rhywiol ar blant ac anableddau dysgu.
Dylid cyfeirio datganiadau o ddiddordeb at Emilie Smeaton, Cyfarwyddwr Ymchwil, Paradigm Research sy’n cyflwyno’r hyfforddiant, ac mae manylion cyswllt i’w gweld isod.
Er mwyn adeiladu ar y dystiolaeth a gasglwyd drwy’r astudiaeth ymchwil ‘Unprotected, Overprotected’ <http://www.barnardos.org.uk/cse-learning-disabilities> ledled y DU i fynd i’r afael â phlant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu sy’n dioddef, neu sydd mewn perygl o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant, mae Comic Relief wedi comisiynu’r Sefydliad Prydeinig Anableddau Dysgu (BILD), Paradigm Research a Barnardo’s i gynllunio a chyflwyno hyfforddiant i gefnogi gweithwyr proffesiynol i fod yn fwy gwybodus i ddiwallu anghenion y grŵp yma o blant a phobl ifanc.
Bydd y pecyn hyfforddiant yn cael ei seilio ar ddysgu o brosiect ymchwil “Unprotected, Overprotected” a’i nod fydd ymgorffori’r gwersi mewn ymarfer dyddiol â phlant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu sy’n dioddef, neu sydd mewn perygl o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant. Bydd wyth digwyddiad hyfforddiant am ddim yn cael eu cynnal yn y DU ym mis Hydref a Thachwedd 2016. Bydd dau ddigwyddiad hyfforddiant am ddim yn cael eu cynnal yng Nghymru, gyda lle i 40 o weithwyr proffesiynol ym mhob un. Un yn ne Cymru ac un yng ngogledd Cymru.
Mae’r hyfforddiant wedi’i dargedu at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n uniongyrchol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu sy’n dioddef, neu sydd mewn perygl o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant. Bydd gweithwyr proffesiynol eraill yn cael eu hystyried am le.
Bydd yr hyfforddiant ar gael i bobl eraill ar wefannau BILD a Barnardo’s ar ôl i’r digwyddiadau hyfforddi gael eu cynnal.
Os ydych chi awydd cael cynnig lle mewn digwyddiad hyfforddi, cysylltwch â:
Emilie Smeaton, Cyfarwyddwr Ymchwil, Paradigm Research:
emiliesmeaton@paradigmresearch.co.uk