Marwolaeth Annisgwyliedig Mewn Plant – Gwybodaeth i Deuluoedd

Hannah Cassidy

INFORMATION ICON picture of structure

Mae marwolaeth unrhyw blentyn yn drasiedi enfawr i’r teulu a’r gymuned ehangach, felly mae’n bwysig bod pob marwolaeth plentyn annisgwyliedig yn cael ei hadolygu’n ofalus fel y gallwn ddysgu cymaint â phosibl, i geisio atal marwolaethau yn y dyfodol, ac i gefnogi teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau.

Ystyr PRUDiC yw Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaeth Annisgwyliedig mewn Plentyndod a dyma’r broses sy’n egluro sut mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol yng Nghymru ymateb i farwolaeth annisgwyliedig plentyn, i wneud yn siŵr bod yr ymateb yn ddiogel, yn gyson ac yn sensitif i anghenion y teulu mewn profedigaeth.

Taflenni i Deuluoedd a Gweithwyr Proffesiynol

Mae asiantaethau iechyd, awdurdodau lleol a’r heddlu yn deall y broses PRUDiC. Fodd bynnag, nodwyd bod angen datblygu gwybodaeth glir i rieni a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy’n esbonio’r prosesau sy’n digwydd yn dilyn marwolaeth annisgwyliedig plentyn.

Mae’r taflenni wedi’u datblygu mewn ymgynghoriad â rhieni â phrofiad bywyd, ochr yn ochr â chynrychiolwyr iechyd ac addysg. Yn dilyn ymgynghoriad, cynhyrchwyd dwy daflen; un ar gyfer rhieni a gofalwyr a’r llall ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Gan weithio gyda’i gilydd, sicrhaodd y grŵp fod yr wybodaeth yn cyfathrebu’r broses PRUDiC yn glir ac yn dosturiol i bawb yr effeithiwyd arnynt gan farwolaeth y plentyn. 

Rhagolwg Aml-asiantaeth

Datblygwyd y taflenni gan y Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol (NSS), Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar ran Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru. Grŵp strategol yw ‘Y Rhwydwaith’ sy’n cynnwys aelodau o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, NSS a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Mae’r NSS yn ddiolchgar iawn am gyfraniad teuluoedd mewn profedigaeth sydd wedi darparu mewnbwn gwerthfawr a deialog ystyrlon yn natblygiad y taflenni, a hefyd i Dr Claire Thomas am ei harweinyddiaeth ochr yn ochr â’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol am gefnogi’r gwaith hwn.

Gadael sylw