Merched sydd wedi profi gofal a Chyfiawnder Troseddol

Hannah Cassidy

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio gor-gynrychiolaeth merched sydd wedi profi gofal yn y system cyfiawnder ieuenctid a throseddol.

Nid yw’r mwyafrif o blant mewn gofal yn gwrthdaro gyda’r gyfraith (Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai, 2016), ond mae lleiafrif yn parhau i wneud hynny, ac mewn risg o gael eu gadael pan maent yn gwneud (Coyne, 2015).

Roedd Adolygiad Laming yn amlygu’r diffyg ymchwil o ran profiadau merched mewn gofal o fewn y system cyfiawnder troseddol ac yn argymell canolbwynt penodol ar eu hanghenion (Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai, 2016; Staines, 2016). Yn ogystal â hynny, roedd Adolygiad Lammy (2017) yn dangos sut oedd hunaniaeth ethnig yn ychwanegu haen ychwanegol o anfantais ar gyfer rhai, gan amlygu’r angen i ganolbwyntio hefyd ar ferched du a lleiafrifol.

Gweler y ddolen gyswllt i weld yr adroddiad: http://wp.lancs.ac.uk/care-custody/

Leave a Comment