Modiwl E-ddysgu Adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru Bellach Ar Gael

Hannah Cassidy

Information and latest news

Rydym yn falch o gadarnhau bod modiwl e-ddysgu Rheoli Honiadau o Ddiogelu o dan Adran 5 bellach wedi cael ei gwblhau a’i ryddhau ar Weithdrefnau Diogelu Cymru.

Mae’r hyfforddiant yma’n cefnogi ymarferwyr, rheolwyr a gwirfoddolwyr i ddeall Gweithdrefnau Diogelu Cymru sy’n ymwneud â honiadau a phryderon diogelu am ymarferwyr a’r rheini mewn swyddi o ymddiriedaeth.

Mae’r modiwl yn ymdrin â meysydd allweddol yn cynnwys beth mae Adran 5 yn berthnasol iddo, pryd y dylid defnyddio’r gweithdrefnau, rhoi gwybod am bryderon, rheoli’r broses, canlyniadau, risg parhaus a chefnogaeth i unigolion.

Mae’r e-ddysgu wedi’i ddylunio i helpu i gryfhau cysondeb a hyder ar draws ymarfer diogelu trwy roi arweiniad clir ar gyfrifoldebau, gwneud penderfyniadau a’r camau y dylid eu dilyn pan fo pryderon yn codi.

Fe anogir ymarferwyr a rheolwyr i gwblhau’r modiwl a’i ddefnyddio i gefnogi eu dealltwriaeth o brosesau Adran 5 ac ymarfer diogelu da.

Mae’r modiwl ar gael yma neu drwy wefan/ap Gweithdrefnau Diogelu Cymru o dan Adran 5, hyfforddiant a chefnogaeth. 

Gadael sylw