Neges gan Gadeirydd BDGC

Hannah Cassidy

Ar yr adeg hon o fyfyrio, hoffai Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru anfon y neges bwysig hon at yr holl weithwyr proffesiynol amlasiantaeth sy’n ymwneud â diogelu yn y rhanbarth. 

Yn ein cynhadledd ddiweddar fe amlygwyd enghreifftiau o arfer da cysylltiedig â gwaith diogelu yn ein rhanbarth.  Gwelsom weithlu yn y rhanbarth sydd wedi ymrwymo i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl. Gwelsom hefyd ddatblygiadau mewn ymarfer,  ffyrdd effeithiol newydd o ddiogelu’r rhai sydd yn y perygl mwyaf, ac ymrwymiad i waith amlasiantaeth. 

Mae digwyddiadau diweddar wedi amlygu’r ffaith na allwn byth ddileu risg yn llwyr ond fel rhanbarth rydym wedi ymrwymo i ddysgu bob amser o adolygiadau o arfer cenedlaethol a rhanbarthol ac i helpu asiantaethau i wneud gwelliannau, i gydnabod y posibilrwydd y gallai niwed ddigwydd ac i gymryd y camau priodol.

Gadael sylw