Heddiw rwyf wedi cyhoeddi adroddiad yn defnyddio fy mhwerau cyfreithiol ffurfiol i adolygu sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymarfer eu swyddogaethau yng nghyswllt dau faes polisi addysg; addysgu gartref ac ysgolion annibynnol.
Roeddwn wedi bod yn pryderu ynghylch diffyg cynnydd gan Lywodraeth Cymru wrth wneud y newidiadau angenrheidiol i’r fframwaith cyfreithiol er mwyn diogelu a chynnal mynediad pob plentyn i’w hawliau, ble bynnag maen nhw’n cael eu haddysg. Dyma’r tro cyntaf i swyddfa’r Comisiynydd Plant ddefnyddio’r pŵer yma i adolygu’r Llywodraeth.
Mae fy Adolygiad wedi canfod bod Llywodraeth Cymru wedi methu â diogelu hawliau plant wrth ymarfer eu swyddogaethau yn y ddau faes polisi oedd yn cael eu hadolygu. Er bod llawer o weithgaredd wedi digwydd dros y blynyddoedd, yn y pen draw ni wnaed unrhyw newidiadau sylweddol i ddiogelu hawliau plant yn y lleoliadau hyn.
Mae’r Adolygiad yn cynnwys nifer o argymhellion, gan gynnwys argymhelliad trosfwaol i’r Llywodraeth ddarganfod beth sy’n angenrheidiol i gyflawni’r newidiadau hyn yn gyflym pan gaiff y Llywodraeth newydd ei ffurfio. Allwn ni ddim gweld fy nghanfyddiadau yn yr Adolygiad yn digwydd eto, gyda’r gweithgaredd yn cychwyn o’r cychwyn, i raddau helaeth, ym mhob tymor Senedd, gan fod hynny wedi methu â sicrhau bod modd i’r Llywodraeth wneud y newidiadau angenrheidiol. Er fy mod i’n cydnabod bod swm aruthrol o adnoddau’r llywodraeth wedi cael eu dargyfeirio er mwyn ymateb i’r pandemig, mae’r materion hyn wedi parhau heb eu datrys am gyfnod rhy hir, a bydd yn hanfodol bod gan y Llywodraeth nesaf ym mis Mai 2021 gyfeiriad clir ar gyfer symud ymlaen yn y meysydd polisi hyn. Rwy’n credu y bydd fy argymhellion yn gwneud hynny.
Mae’r Adolygiad hefyd yn cynnwys rhai argymhellion mwy cyffredinol ynghylch trefniadaeth y Llywodraeth a sut mae’n gweithio ar draws ei swyddogaethau, yn ogystal ag argymhellion ynghylch fy mhwerau cyfreithiol innau. Wrth gynnal yr Adolygiad hwn, nid wyf wedi gallu cael mynediad at yr holl bapurau roeddwn i am eu gweld er mwyn olrhain ac adolygu sut cafodd penderfyniadau’r Llywodraeth eu gwneud. Mewn democratiaeth, nid wyf yn disgwyl gallu mynnu bod unrhyw Lywodraeth na chorff cyhoeddus yn gweithredu, ond mae angen pwerau digonol arnaf fi i gyflawni fy rôl. Mae fy rôl statudol yn gofyn fy mod i’n galw’r Llywodraeth i gyfrif am eu gweithredoedd. Er fy mod i wedi gwneud hynny trwy’r Adolygiad hwn, ni allai’r Llywodraeth ryddhau’r holl bapurau perthnasol oherwydd cyfyngiadau yn y ddeddfwriaeth sy’n sylfaen ar gyfer fy rôl. Rwy’n credu bod angen newid y gyfraith i adlewyrchu hynny.
Cafodd y Llywodraeth yr adroddiad hwn ddechrau mis Ionawr 2021; mae ganddyn nhw tan 7 Ebrill 2021 i anfon eu hymateb ysgrifenedig ffurfiol iddo. Rwy’n edrych ymlaen at ei dderbyn, a byddaf yn parhau i bwyso am newid yn y meysydd polisi hyn. Efallai mai ar niferoedd cymharol fach o blant y maen nhw’n effeithio, ond fel mae’r Adolygiad wedi dangos, mae’n hanfodol bod pob plentyn yn cael mynediad i’w holl hawliau ble bynnag maen nhw, a rhan allweddol o’m rôl i yw sicrhau bod hynny’n digwydd.
Gallwch chi ddarllen a lawrlwytho holl ddogfennau’r Adolygiad ar fy ngwefan yma:
Mae hynny’n cynnwys corff yr adroddiad, dwy gronoleg sylweddol yn nodi llinell amser y papurau a’r camau gweithredu rwyf wedi eu hadolygu, a hefyd grynodeb o’r gwaith i bobl ifanc.
Yn gywir
Sally Holland
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English
Gadael Sylw