• Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

  • Gwybodaeth
  • Cyhoeddus
    • Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifanc
      • Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
      • Fframwaith ymddygiad rhwiol niweidiol
      • Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant
    • Gwybodaeth ar gyfer Oedolion
      • Caethwasiaeth Fodern
      • Camddefnydd Ariannol
      • Cam-drin Domestig
      • Eithafiaeth a Radicaleiddio
      • Hunan-Esgeulustod a Chelcio
      • Linellau Sirol
  • Gweithwyr proffesiynol
    • Digwyddiadau a hyfforddiant
    • Aelodau’r Bwrdd
      • BDPGC
      • BDOGC
    • Polisïau a Gweithdrefnau
    • Dogfennau’r Bwrdd
    • Adolygiadau Ymarfer
    • Gweithdrefnau Diogelu Cymru
    • Datblygu’r Gweithlu
    • Cynllun Gweithredu Camdrin Plant yn Rhywiol
  • Adnoddau
    • Briffiau 7 munud
    • Llyfrgell Dogfennau
    • Cardiau Z
  • Blog
  • CC (FAQ)

Tachwedd 14, 2023

Paid ag ofni bod yn anghywir – beth os wyt ti’n iawn?

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi annog pobl i godi llais os byddant yn poeni am gam-drin plant, wrth i ymgyrch genedlaethol newydd gael ei lansio ar ddechrau’r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol.

Mae’r ymgyrch yn annog unrhyw un sy’n poeni am blentyn neu berson ifanc yn ei deulu neu ei gymuned, i gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol yn ei ardal neu i ffonio 101.

Mae’n defnyddio gwersi a ddysgir drwy ymarfer, o ran pryd a sut i roi gwybod am bryderon diogelu.

Mae’r ymgyrch, sy’n dwyn yr enw ‘Gwneud yr Alwad’, yn tynnu sylw at rai o’r arwyddion cyffredin sy’n dangos y gallai fod rhywbeth sy’n peri gofid yn digwydd ym mywyd plentyn.

Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau yn ymddygiad neu gymeriad plentyn heb reswm, gwybodaeth am faterion oedolion sy’n amhriodol ar gyfer ei oedran, a thuedd i redeg i ffwrdd neu fynd ar goll.

Nid yw’r arwyddion hyn yn golygu bod plentyn yn cael ei niweidio o reidrwydd, ond bydd unrhyw wybodaeth yn helpu gweithwyr proffesiynol i asesu’r sefyllfa.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Gallwch chi wneud gwahaniaeth mawr o ran cadw plant yn ddiogel drwy roi gwybod i’r bobl iawn os ydych chi’n meddwl bod angen help ar rywun.

Rydyn ni’n gwybod y gall fod pethau sy’n rhwystro pobl rhag rhoi gwybod am eu pryderon. Mae’n bosibl y byddai pobl yn anfodlon rhoi gwybod am eu hamheuon bod plentyn yn cael ei gam-drin am eu bod yn ofni eu bod yn anghywir. Efallai bod pobl eraill yn poeni y gallai hynny wneud pethau’n waeth i’r plentyn.

Ond rwy’n annog pobl i wneud yr alwad os ydyn nhw’n poeni. Paid ag ofni bod yn anghywir, beth os wyt ti’n iawn? Mae modd rhoi gwybod am bryderon yn ddienw.

Bydd y Dirprwy Weinidog yn siarad yn Seminar y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a Chynhadledd Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro yn nes ymlaen yr wythnos hon.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro, Lance Carver, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i Fro Morgannwg:

Rydyn ni wir yn croesawu’r fenter hon i geisio gwella hyder pobl i godi llais a rhannu unrhyw wybodaeth y gallai fod ganddynt am gam-drin plant yng Nghymru.

Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English

Reader Interactions

Gadael Sylw Diddymu ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’n rhaid llenwi’r blychau sydd wedi’u nodi â *

Primary Sidebar

Chwilio

Digwyddiadau a hyfforddiant
Polisiau a gweithdrefnau
Adolygiadau ymarfer
Dogfennaur bwrdd
Aelodau
Blog
Wythnos diogelu

Y Negeseuon Diweddaraf

  • Paid ag ofni bod yn anghywir – beth os wyt ti’n iawn?
  • Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru 13 – 17 Tachwedd 2023
  • Gwneud yr Alwad
  • Briffau 7 Munud Newydd
  • Adroddiad Blynyddol 2022 – 2023 BDGC

Newyddlen E-Bost

Cofrestrwch i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf trwy e-bost!

Privacy Notice

Footer

Partneriaid BDGC

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Sir Wrecsam
Heddlu Gogledd Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (Cymru)
Cwmni Ailsefydlu Cymunedol

NISB Logo

Manylion Cyswyllt

Swyddog Gweinyddol Rhanbarthol i’r Bwrdd Diogelu
E-bost: regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk
Ffon: 01824 712903

Hysbysiad Preifatrwydd

Mewngofnodi

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Pryderu am blentyn?

Os ydych yn gwybod am blentyn sydd mewn perygl o gam-drin neu yn cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i’r cyngor neu’r heddlu.

Os yw’r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999. Os nad yw mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol cyn gynted â phosibl i rannu eich pryderon.

Ynys Môn
01248 725 888
01248 353 551 (y tu allan i oriau swyddfa)

Gwynedd
01758 704 455
01248 353 551 (y tu allan i oriau swyddfa)

Conwy
01492 575111
0300 1233079 (y tu allan i oriau swyddfa)

Sir Ddinbych
01824 712 200
0345 053 3116 (y tu allan i oriau swyddfa)

Sir y Fflint
01352 701 000
0345 053 3116 (y tu allan i oriau swyddfa)

Wrecsam
01978 292 039
0345 053 3116 (y tu allan i oriau swyddfa)

Poeni am Oedolyn?

Os ydych yn gwybod am oedolyn sydd mewn perygl o gam-drin neu yn cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i’r cyngor neu’r heddlu

Os yw’r person mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr Heddlu ar unwaith ar 999. os nad ydyw mewn perygl dybryd. ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol cyn gynted â phosibl i rannu eich pryderon.

Ynys Môn
01248 750057
01248 353551 (Y tu allan i oriau swyddfa)

Gwynedd
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant: 01766 772577
01248 353551 (Y tu allan I oriau swyddfa)

Conwy
Oedolion:
0300 4561111
0300 1233079 (Y tu allan i oriau swyddfa)

Sir Ddinbych
0300 4561000
0345 053 3116 (Y tu allan i oriau swyddfa)

Sir y Fflint
03000 858858
0845 053 3116 (Y tu allan I oriau swyddfa)

Wrecsam
01978 292066
0345 053 3116 (Y tu allan I oriau swyddfa)

Copyright © 2023 · Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru · Mewngofnodi

  • Cymraeg
  • English