Plant sydd ar yr ymylon

Hannah Cassidy

Policies & Procedures

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Ym mis Rhagfyr 2024, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ganfyddiadau ei ymchwiliad i blant ar yr ymylon (yn ymwneud â phlant sy’n mynd at goll a’r rhai sy’n destun neu mewn perygl o gamfanteisio troseddol). Mae’r adroddiad yn cynnwys 23 o argymhellion.

Dyma ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion.

Mae’r ymchwiliad i Blant ar yr Ymylon wedi rhoi cyfle pwysig i fyfyrio ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud yn y maes hwn a chanolbwyntio ar yr hyn rydym am ei gyflawni yn y dyfodol.

Rydym wedi sicrhau cynnydd wrth ymateb i argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Rydym wedi cyflwyno rheoliadau i gryfhau’r gofynion o ran diogelu, llywodraethiant a hyfforddiant ar ysgolion annibynnol; ei gwneud yn ofynnol i’r staff cymorth addysgu a dysgu mewn ysgolion annibynnol gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg; ac i reoleiddio Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig, mewn modd tebyg i gartrefi gofal i blant, fel gwasanaeth a reoleiddir o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’n rhanddeiliaid i gyflawni’r canlyniadau a’r amddiffyniadau gorau ar gyfer pob plentyn.

I ddarllen yr ymateb llawn / darllenwch ymatebion LIC I’r holl argymhellion, gweler y ddogfen atodedig.

Gadael sylw