Rhaglen Plant a Theuluoedd sy’n cael eu Heffeithio gan Garchariad (FABI)

Hannah Cassidy

Mae lle i gredu bod nifer sylweddol o blant a theuluoedd yng ngogledd Cymru yn cael eu heffeithio gan garchariad. Yn aml fodd bynnag, caiff eu bregusrwydd a’u heriau unigryw eu hanghofio neu eu cuddio, ac yn aml maent yn wynebu ‘dedfryd gudd’ eu hunain.

Prosiect FABI – Dull Aml asiantaeth

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r materion y mae’r teuluoedd yma yng ngogledd Cymru yn eu hwynebu, ac er mwyn annog gwaith atal a mwy o gefnogaeth wedi’i dargedu nad yw’n difrïo, mae 11 o gyrff cyhoeddus o bob rhan o’r rhanbarth a CEM Berwyn wedi penodi tîm trawsbleidiol rhanbarthol bychan; mae’n rhan o waith Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru a Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru.

Yn ystod cam nesaf y rhaglen bydd gwaith Ardaloedd Braenaru Awdurdod Lleol yn gweithio ar draws ardaloedd gwasanaeth a rhwng y ddalfa a’r gymuned.

Mae dau swyddog yn gweithio yn y tîm, sef Sara Kettle a Catherine Pritchard, sydd yn cydweithio gyda’r partneriaid.  

Os hoffech chi gysylltu â Sara neu Catherine ynghylch eu gwaith, a chefnogi a’i lywio wrth symud ymlaen, cysylltwch â nhw:

sara.kettle@wrexham.gov.uk
catherine.pritchard@wrexham.gov.uk

01978 292453 neu 01978 292444.

I gael rhagor o wybodaeth:
https://www.northwales-pcc.gov.uk/cy/Gweithio-mewn-Partneriaeth/Prosiect-Teuluoedd-a-Effeithir-gan-Garcharu-Gogledd-Cymru.aspx

Leave a Comment