Wrth i Gymru baratoi ar gyfer cyfraith newydd a fydd yn gwneud cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon, mae arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol wedi rhannu eu gobeithion y bydd yn helpu amddiffyn plant a gwella eu lles.
O 21 Mawrth 2022 ymlaen, bydd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 yn dod i rym, gan ddileu’r amddiffyniad hanesyddol o gosb resymol a rhoi’r un amddiffyniad cyfreithiol rhag ymosodiad i blant ag oedolion.
Mae gweithwyr proffesiynol sy’n cynrychioli amrywiaeth o sectorau ledled Cymru wedi bod yn cydweithio i sicrhau bod y ddeddf newydd yn cael ei chyflwyno’n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys paratoi sefydliadau ar gyfer y newid i’r gyfraith, cynyddu ymwybyddiaeth a rhoi gwybodaeth a chyngor i rieni.
Dywedodd Dr Rowena Christmas, cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru: “Mae’r dystiolaeth yn dangos yn gwbl glir fod cosbi plentyn yn gorfforol yn gallu bod yn niweidiol i les y plentyn a’r rhiant.
“Nid yw’n cynnig unrhyw fudd na ellir ei gael o ddull arall o ddisgyblu, ond mae’n gysylltiedig ag ystod eang o niweidiau sy’n gallu para oes.”
Dywedodd Stephen Thomas, pennaeth Ysgol y Bryn yn Llanelli: “Mewn byd lle mae pawb, gan gynnwys oedolion, yn gwneud camgymeriadau, mae’n hollbwysig ein bod yn cefnogi ein plant a’n pobl ifanc trwy eu helpu, eu cynorthwyo a’u harwain i ddysgu o gamgymeriadau.
“Does dim lle i gosbi corfforol wrth fagu plant. Mae darparu cysondeb, arferion da a bod yn esiampl dda i’n plant o ran y gwerthoedd yr hoffem iddyn nhw eu dangos yn creu pobl dda.”
Dywedodd Pam Kelly, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent:“Bydd 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i amddiffyn hawliau plant yng Nghymru. O’r diwrnod hwn ymlaen, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon ar draws y wlad.
“Rydym ni’n llwyr gefnogi’r ddeddf newydd hon. Ein rôl fel heddweision, gan weithio gydag asiantaethau diogelu eraill yng Nghymru, yw rhoi cymorth a sicrwydd i deuluoedd, nid eu troseddoleiddio. Ond mae’n bwysig cydnabod nad yw disgyblu plant a’u cosbi’n gorfforol yr un peth.
“Mae diogelu plant yn hollbwysig ac mae cydweithwyr yn yr heddlu ledled Gwent yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner i sicrhau bod amddiffyn a diogelu plant yn flaenoriaeth.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid allweddol, heddluoedd eraill yng Nghymru, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i roi’r newidiadau hyn ar waith.”
Dywedodd Fôn Roberts, cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol a phennaeth gwasanaethau plant a theuluoedd yng Nghyngor Ynys Môn: “Dylai plant allu mwynhau eu plentyndod. Mae llawer o ffyrdd mwy effeithiol o fagu plant na throi at gosbi corfforol. Ac fel tîm gwasanaethau cymdeithasol, rydym ni yma i gynnig cyngor a chymorth i rieni a gofalwyr sy’n chwilio am ffordd amgen o ddisgyblu.”
Dywedodd Dewi Rowland Hughes, uwch seicolegydd addysgol a phlant a llywydd y Gymdeithas Seicolegwyr Addysgol: “Nid yw unrhyw riant eisiau smacio ei blentyn ac mae rhesymau da dros beidio â gwneud hynny. Yn gyntaf, yr effaith negyddol ar y berthynas rhwng y gofalwr a’r plentyn – mae’n niweidio ymddiriedaeth ac yn achosi cysylltiadau negyddol. Yn ail, mae’n fath o gamdrin pŵer ac yn codi cywilydd ar y plentyn – i’w orfodi i roi’r gorau i wneud rhywbeth nad ydych chi’n ei hoffi. Yn drydydd, mae’n esiampl wael o sut i ymddwyn pan fydd rhywbeth y mae rhywun arall yn ei wneud yn eich gwylltio. Nid dyna beth rydym ni eisiau ei ddysgu i’n plant.
“Yn ffodus, mae dewisiadau amgen, cydweithredol ar gael yn lle cosbi corfforol. Gallwn ddatblygu disgyblaeth gadarnhaol gyda’n plant ac felly rhoi smacio lle y dylai fod – ym min sbwriel hanes!”
Ychwanegodd yr Athro Karen Graham: “P’un a ydych yn rhiant neu’n dylanwadu ar rieni trwy roi cymorth, argymhellaf yn gryf eich bod yn ymweld â’r wefan Magu plant. Rhowch amser iddo (llyw.cymru/rhowchamseriddo) i lwyr ddeall pam mae magu plant yn gadarnhaol yn ddewis gwell ar gyfer disgyblu plant.
“Mae gwahardd cosbi corfforol yn ymwneud â chymaint yn fwy nag atal smacio; mae’n ymwneud â llwyr gefnogi dulliau mwy ystyrlon o ddisgyblu sy’n datblygu gwydnwch ac ymddiriedaeth ar yr un pryd â chryfhau eich perthynas gydol oes â’ch plentyn.”
Mae rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth ar gael yma: llyw.cymru/stopiocosbicorfforol
Mae rhagor o wybodaeth am fagu plant yn gadarnhaol, gan gynnwys adnoddau i helpu rhieni, ar gael trwy’r rhaglen Magu plant. Rhowch amser iddo: llyw.cymru/rhowchamseriddo


