Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol

Hannah Cassidy

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn gofyn i bob asiantaeth / unigolyn sy’n ymwneud â gwaith diogelu ar draws y rhanbarth fanteisio ar y cyfle i ymgynghori ar y Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol.

Hoffwn ni glywed eich barn a’ch syniadau am y safonau hyfforddiant diogelu cenedlaethol arfaethedig, sydd wedi’u cydgynhyrchu gan grŵp datblygu cenedlaethol aml-asiaentaethol ac eraill.

Datblygwyd y safonau oherwydd:

  • nid oedd unrhyw safonau aml-asiantaeth cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant diogelu ar waith
  • roedd diffyg cysondeb o ran cynllun, cynnwys a darpariaeth hyfforddiant diogelu ar draws sefydliadau yng Nghymru
  • roedd dryswch ynghylch y lefelau priodol o hyfforddiant diogelu ar gyfer y gweithlu.

Bydd y safonau’n helpu sefydliadau i wneud yn siŵr:

  • eu bod yn ymgorffori’r safonau ar gyfer ymarferwyr yn eu polisïau a gweithdrefnau diogelu
  • bod ymarferwyr yn deall eu cyfrifoldebau sy’n berthnasol i’r grŵp y maent ynddo a sut i ddilyn y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol
  • bod pob ymarferydd yn cael mynediad i Weithdrefnau Diogelu Cymru ac yn cydymffurfio â nhw.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor am wyth wythnos a bydd yn cau am 11.59pm, 17 Mehefin 2022.

Sut i ymateb

Os hoffech chi ddweud eich dweud am y safonau hyfforddiant diogelu cenedlaethol arfaethedig, gallwch wneud hynny drwy:

Gadael sylw