Stop it Now! Cymru – Gwybodaeth i Bartneriaid

Hannah Cassidy

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Stop It Now! Cymru wedi bod yn brysur yn creu adnoddau newydd ar gyfer rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â diweddaru adnoddau presennol, er mwyn sicrhau fod gan oedolion y gefnogaeth a’r cyngor maent eu hangen i rwystro cam-drin plant yn rhywiol.

Rydym yn falch o rannu ein pecynnau partner newydd gyda chi. Mae’r pecynnau’n cynnwys gwybodaeth ar ein gwasanaethau, ein sesiynau hyfforddi sydd ar y gweill yn ogystal â’n hadnoddau a newyddion codi arian perthnasol. Rydym hefyd wedi cynnwys argymhellion i rannu gyda’r rhwydweithiau i’n helpu ni i gadw plant yn ddiogel rhag niwed.


Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y pecynnau neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni: wales@stopitnow.org.uk

Er mwyn cadw ein gwefan a’n hadnoddau mor effeithiol â phosibl, gwerthfawrogwn petaech yn cwblhau ein harolwg byr. Mae’r arolwg yn gwbl gyfrinachol a bydd yn cymryd ychydig o funudau i’w gwblhau. Er mwyn cyflawni’r arolwg, cliciwch yma.


Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus.

Cofion cynnes,

Stop It Now! Cymru

Leave a Comment