Stopio cosbi corfforol yng Nghymru

Hannah Cassidy

Roedd 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru. Ar y diwrnod hwn, daeth cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Beth yw cosb gorfforol?

Mae sawl math o gosb gorfforol.

Fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd. Ond mae mathau eraill hefyd.

Mae’n amhosibl rhestru pob math o gosb gorfforol. Gall fod yn unrhyw ddull o gosbi plentyn gan ddefnyddio grym corfforol.

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai unrhyw fath o gosb gorfforol fod yn niweidiol i blant.

Beth mae’r gyfraith newydd yn ei olygu?

  • Mae cosbi corfforol o unrhyw fath yn anghyfreithlon yng Nghymru.
  • Mae gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion.
  • Mae’n gwneud y gyfraith yn gliriach – haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ei deall.

A yw’r gyfraith newydd yn berthnasol i bawb yng Nghymru?

Ydy, mae’n berthnasol i bawb – rhieni neu unrhyw un sy’n gyfrifol am blentyn tra bo’r rhieni’n absennol.

Ac fel gyda chyfreithiau eraill, mae’n berthnasol i ymwelwyr â Chymru hefyd.

Mae cosbi corfforol wedi bod yn anghyfreithlon mewn ysgolion, cartrefi plant, cartrefi gofal maeth awdurdodau lleol a lleoliadau gofal plant ers peth amser.

Beth sy’n digwydd os bydd pobl yn cosbi plentyn yn gorfforol?

Bydd unrhyw un sy’n cosbi plentyn yn gorfforol:

  • yn torri’r gyfraith
  • mewn perygl o gael ei arestio neu ei gyhuddo o ymosod
  • efallai yn derbyn cofnod troseddol, fel gyda phob trosedd arall.

Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen, i’w helpu i ddod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant, i helpu i osgoi sefyllfa o’r fath.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf i’n gweld plentyn yn cael ei gosbi’n gorfforol neu os ydw i’n poeni am blentyn?

  • Cysylltwch â’ch adran gwasanaethau cymdeithasol leol.
  • Gallwch hefyd ffonio’r heddlu mewn argyfwng neu os yw plentyn mewn perygl.

Ble gallaf i gael cyngor a chefnogaeth?

  • Mae Magu Plant. Rhowch amser iddo yn cynnig awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol ar fagu plant mewn modd cadarnhaol i annog ymddygiad da gan blant a dewisiadau eraill yn lle cosb gorfforol. Mae gan yr ymgyrch dudalen we ar gyfer cymorth ar rianta sy’n cynnwys dolenni i gymorth a llinellau cymorth pellach i rieni.
  • Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd.
  • Rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg (os ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg) a Teuluoedd yn Gyntaf.

Mwy o wybodaeth:

https://llyw.cymru/stopio-cosbi-corfforol-yng-nghymru

Gadael sylw