Swyddog Gweinyddol Rhanbarthol – Dyddiad Cau: 09/03/2017

Bethan Jones

Updated on:

Mae Byrddau Diogelu Oedolion a Phlant Gogledd Cymru yn dymuno penodi swyddog
gweinyddol cymwys a phrofiadol i ddarparu cymorth gweinyddol i’r tîm a rhaglenni gwaith y
Byrddau.

Bydd gan ddeilydd y swydd allu i arwain y gofynion gweinyddol ar gyfer Byrddau Diogelu Oedolion a Phlant Gogledd Cymru, wrth weithio gyda phartneriaid.

Mae gofyniad i gymryd cofnodion/ nodiadau cywir mewn cyfarfodydd a sicrhau bod busnes
y Bwrdd yn cael ei reoli’n effeithiol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous ar gyfer unigolyn sy’n dymuno ehangu eu gwybodaeth, sgiliau ac
sy’n dymuno gweithio mewn tîm busnes rhanbarthol.

Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch Bethan Jones Edwards ar
01824  712037  neu bethan.m.jonesedwards@denbighshire.gov.uk

Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan
www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud  cais,  cysylltwch  â’r  Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100.

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried. Mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.

Dyddiad Cau: 09/03/2017

Swyddog Gweinyddol Rhanbarthol

Leave a Comment