Uned Atal Trais Cymru – Profiadau Rhai sy’n Sefyll Gerllaw o Drais a Cham-drin Domestig ynystod y Pandemig COVID-19

Hannah Cassidy

Mae’n bleser gennyf rannu ein hymchwil ddiweddaraf i Brofiadau’r Rhai sy’n Bresennol yn ystod Achosion o Drais a Cham-drin Domestig yn ystod Pandemig COVID-19.

Byddwn yn cynnal gweminar i drafod canfyddiadau’r ymchwil ar 12 Hydref 2021. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys cyflwyniad gan y prif ymchwilydd a thrafodaeth banel gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cymorth i Ferched Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gallwch gofrestru i fynychu ar Eventbrite nawr.

https://www.eventbrite.co.uk/e/bystander-experiences-of-domestic-violence-and-abuse-during-covid-19-tickets-172121679577

Roedd yr astudiaeth hon, a gyflawnwyd ar y cyd â Phrifysgol Caerwysg, ac a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys arolwg a chyfweliadau ag aelodau’r cyhoedd er mwyn cael gwell dealltwriaeth o brofiadau ac ymddygiadau’r rhai a fu’n bresennol yn ystod achosion o drais a cham-drin domestig yn ystod cyfnod o gyfyngiadau cymdeithasol. Er y cafodd yr astudiaeth ei gweithredu ar raddfa fach, dyma’r astudiaeth gyntaf o’i bath sy’n rhoi cipolwg newydd ar brofiadau’r rhai a oedd yn bresennol yn ystod pandemig byd-eang.

Mae’r ymchwil yn nodi y gwnaeth amgylchiadau’r pandemig, fel treulio mwy o amser gartref, alluogi’r rhai a oedd yn bresennol mewn achosion o drais a cham-drin domestig i fod yn ymwybodol o achosion o drais a cham-drin domestig. Un o’r prif ganfyddiadau oedd bod teimlo eu bod mewn cysylltiad â’u cymuned yn arwyddocaol i’r rhai a oedd yn bresennol o ran cymryd camau cymdeithasol cadarnhaol mewn ymateb i’r ymddygiad a oedd yn peri gofid iddynt, a bod y rhai a oedd heb gymryd camau’n nodi mai’r rheswm dros hyn oedd diffyg sgiliau ac am nad oeddent yn gwybod beth i’w wneud.

Mae’r gwersi i’w dysgu o’r ymchwil hon yn awgrymu y dylai codi ymwybyddiaeth a gwella gwybodaeth am beth yw trais a cham-drin domestig fod yn sail i ymgyrchoedd cyhoeddus i’r rhai sy’n bresennol yn ystod achosion. Yn yr un modd, gallai polisïau a rhaglenni sydd wedi’u hanelu at atal trais a cham-drin domestig geisio meithrin, cynnal ac annog ymdeimlad o gymuned, gan gymell y rhai sy’n bresennol i gymryd camau pan fyddant yn gweld trais a cham-drin domestig neu pan fydd ganddynt bryderon yn eu cylch.

Leave a Comment