Hoffai’r Uned Atal Trais rannu ein hadroddiad dros dro ar ‘Deall Effaith COVID-19 ar Drais Plentyndod a Phrofiadau Niweidiol a wynebir gan Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru’, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â’r Ganolfan Gymorth Profiadau Niweidiol Plentyndod.
Mae COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar gymdeithas, ac mae’r goblygiadau cymdeithasol, economaidd ac o ran iechyd wedi effeithio fwyaf ar blant o deuluoedd mwy difreintiedig. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at dystiolaeth i gefnogi pryderon y gall fod gan lawer ohonom: bod mesurau iechyd y cyhoedd, megis y cyfnodau clo a’r cyfyngiadau ar gadw pellter cymdeithasol sydd wedi bod yn hollbwysig i gadw rheolaeth dros y feirws, wedi cynyddu’r tebygolrwydd y bydd blant a phobl ifanc yn wynebu risg o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrais.
Mae’r adroddiad yn myfyrio ar ddata a dadansoddiad a gynhaliwyd wrth fonitro trais yn barhaus yn ystod COVID-19, ac yn adolygu llenyddiaeth i ddeall sut mae ffactorau ehangach wedi effeithio ar iechyd plant a phobl ifanc yn sgil COVID-19. Er nad wyf yn credu y bydd canfyddiadau’r adroddiad hwn yn synnu sawl un ohonom, bydd yn ein hatgoffa bod angen i ni gydweithio i ymyrryd yn gynnar ac amddiffyn plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed yng Nghymru.
Er bod rhai plant wedi addasu’n dda i’r cyfnod clo, mae’r adroddiad yn dangos bod llawer o blant wedi bod yn gaeth i amgylchedd y cartref, sydd wedi peri risg ac wedi arwain at brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod megis rhieni sy’n yfed alcohol, trais domestig, corfforol, rhywiol ac emosiynol yn ogystal ag achosion o amddifadu. Mae plant a phobl ifanc wedi bod yn treulio mwy o amser ar y rhyngrwyd, gan olygu bod mwy o adnoddau addysgol ar gael iddynt a’u bod yn gallu rhyngweithio â ffrindiau a theulu. Fodd bynnag, mae hyn wedi rhoi mwy o gyfle i’r sawl sy’n cam-drin plant yn rhywiol ac sy’n cam-fanteisio arnynt ar-lein, ac wedi arwain at gynnydd yn y meysydd hyn. Yn ogystal â hyn, mae’r pandemig a mesurau iechyd y cyhoedd dilynol wedi cael effaith andwyol ar iechyd meddwl a lles plant, ac wedi arwain at lefelau uwch o straen, gorbryder ac unigrwydd. I rai, mae hyn wedi arwain at ymddygiadau sy’n niweidiol i’w hiechyd ac wedi creu syniadaeth am hunanladdiad, ac mae’r plant a’r bobl ifanc hyn yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ffyrdd iach o ymdopi â’r sefyllfa yn sgil y cymorth ffurfiol ac anffurfiol cyfyngedig sydd ar gael a’r diffyg ffactorau amddiffynnol.
Gall wynebu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ystod y pandemig gael effaith gydol oes ar blant a phobl ifanc, ac mae angen buddsoddi mewn dulliau ymyrryd yn gynnar i leihau’r effaith y mae wynebu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrais yn ei chael ar blant a phobl ifanc a lleihau costau dulliau ymyrryd yn hwyr.
Er bod yr adroddiad hwn wedi rhoi cipolwg ar y profiadau y gall plant a phobl ifanc eu cael yn ystod cyfnod clo COVID-19, mae angen gwneud mwy o waith i ddeall effaith y pandemig ar grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio ac sydd dan anfantais. Rwy’n falch o ddweud ein bod eisoes wedi dechrau cynnal asesiad o anghenion iechyd i ddatblygu canfyddiadau’r adroddiad hwn ymhellach , er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r effaith y mae’r pandemig yn ei chael ar blant a phobl ifanc sy’n wynebu trais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Darllenwch yr adroddiad a’i rannu yn eich rhwydweithiau.
Cyfarwyddwr
Uned Atal Trais
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English
Gadael Sylw