Wnes i Erioed Siarad am y Peth’…Helpu bechgyn a dynion ifanc a ecsbloetiwyd yn rhywiol yng Nghymru

Heather Wheeler

Updated on:

Ar dydd Gwener y 15fed o Orffennaf lansiwyd ‘Wnes i Erioed Siarad am y Peth’…Helpu bechgyn a dynion ifanc a ecsbloetiwyd yn rhywiol yng Nghymru’.

 

Mae’r adroddiad wedi ei seilio ar gyfweliadau gyda 42 ymarferydd, ag eraill, yn gweithio’n agos gyda bechgyn sy’n agored i niwed ar draws Gymru, grwp ffocws gyda pobl ifanc, gan gynnwys pedwar bachgen gyda profiad o ecsbloetio rhywiol, a cyfweliad manwl gyda un dyn ifanc. Mae’r adroddiad yn disgrifio beth sy’n gwneud bechgyn yn agored i niwed a’r rhwystrau maent yn profi i adnabod a datgelu eu camdriniaeth.Mae penawdau’r prif ganfyddiadau yn cynnwys y canlynnol:

 

•        Mae llwybrau bechgyn i ecsbloetio rhywiol yn gymhleth ac anodd eu hadnabod, oherwydd eu bod yn aml yn gysylltiedig ag ymddygiad troseddol a / neu gamddefnyddio sylweddau.

 

•        Gall bechgyn hoyw, deurywiol neu fechgyn sy’n cwestiynu eu rhywioldeb ac sy’n cael eu gwneud yn fwy bregus oherwydd gwahaniaethu yn y cartref a’r gymuned fod mewn perygl o

          sefydlu perthynas o’r un rhyw sy’n eu hecsbloetio.

 

•        Mae tystiolaeth bod stereoteipiau rhywiol yn aml yn chwarae rhan wrth ddehongli ymddygiad bechgyn, gydag ymddygiad negyddol yn cael ei dderbyn heb feddwl dim na deall y gallai

          fod yn ymateb posib i drawma, fel y byddid yn fwy tebygol o’i wneud yn achos merched.

 

•        Ar hyn o bryd edrychir ar CSE fel trosedd sy’n effeithio’n bennaf ar ferched ifanc, ac mae hyn yn rhwystr i adnabod bechgyn mewn perygl neu a brofodd CSE.

 

Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer polisi ac ymarfer.

 

Dyma linc i’r adroddiad: http://bit.ly/2afPeR8

 

Leave a Comment