Mae’r Wythnos Cysgu Mwy Diogel yn ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol gan y Lullaby Trust, sydd wedi’i hanelu at unrhyw un sy’n gofalu am fabi ifanc. Y nod yw codi ymwybyddiaeth am syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS) a’r cyngor syml sy’n lleihau’r perygl y bydd yn digwydd.
Rydym yn gwybod fod gwell ymwybyddiaeth o gysgu mwy diogel yn arwain at ostyngiad yn nifer y babis sy’n marw.
Yn anffodus, mae tua 3 babi yn dal i farw bob wythnos oherwydd syndrom marwolaeth sydyn babanod a phe bai pob rhiant yn ymwybodol o’r cyngor cysgu mwy diogel, gellid achub llawer o fywydau. Caiff tua 700,000 o fabis eu geni bob blwyddyn yn y DU ac mae angen i ni ddal ati i estyn allan i bob rhiant newydd gyda’n negeseuon achub bywyd.
Cymerwch Ran
Byddai’r Lullaby Trust yn falch iawn o’ch gweld yn cymryd rhan yn yr Wythnos Cysgu Mwy Diogel! Dyma rai o’r ffyrdd cyffredin y mae pobl yn cymryd rhan:
- Arddangos posteri i godi ymwybyddiaeth
- Codi Arian
- ‘Hoffi’ a rhannu cynnwys y Lullaby Trust ar y cyfryngau cymdeithasol
- Rhannu negeseuon am yr #WythnosCysguMwyDiogel ar y cyfryngau cymdeithasol
Bydd y Lullaby Trust yn rhannu adnoddau i’ch helpu i gymryd rhan yn yr Wythnos Cysgu Mwy Diogel dros y misoedd nesaf. Ond, i gael rhagor o wybodaeth neu ar gyfer ymholiadau’r Wasg, anfonwch neges e-bost at eu Tîm Incwm ac Ymgysylltu: communications@lullabytrust.org.uk


