Ymgyrch ‘Atal Cam-drin Plant yn Rhywiol – Mae’n amser i ni siarad am y peth’

Hannah Cassidy

Mae ymgyrch newydd ar fynd ledled Cymru yn codi ymwybyddiaeth am gam-drin plant yn rhywiol – a’r hyn y gallwn ei wneud i’w atal.

Mae’r ymgyrch  ‘Atal Cam-drin Plant yn Rhywiol – Mae’n amser i ni siarad am y peth’ sy’n cael ei rhedeg gan Stop it Now! Cymru, yn cynnwys sesiynau codi ymwybyddiaeth ar gyfer rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol – ynghyd ag adnoddau perthnasol. Yn ogystal, hyrwyddir negeseuon hanfodol drwy’r cyfryngau cymdeithasol. 

Dim ond yn y blynyddoedd diweddar yr ydym wedi dod i werthfawrogi gwir raddfa cam-drin plant yn rhywiol.  Mae’r cyfrinachedd sy’n amgylchynu camdriniaeth o’r fath yn dystiolaeth, sef nad yw 1 ymhob 3 plentyn a gaiff ei gam-drin gan oedolyn yn dweud wrth neb.  O’r rhai hynny sy’n dweud, mae’r rhan fwyaf yn dweud wrth aelod o’u teulu neu ffrind.  Prin yw’r rhai sy’n dod i sylw’r heddlu, gwasanaethau cymdeithasol neu weithwyr iechyd proffesiynol.  Dyma paham ei bod hi mor bwysig i ni ddeall y peryglon, cymryd camau ataliol a bod yn hyderus i weithredu os oes angen.

Ystadegau Allweddol:

  • Ni fydd 1 ymhob 3 plentyn a gaiff ei gam-drin yn rhywiol gan oedolyn yn dweud wrth neb am y peth
  • Ni fu i 4 allan o 5 plentyn a gafodd ei gam-drin gan ei gyfoedion ddweud wrth neb ar y pryd
  • Dim ond 1ymhob 8 achos o gam-drin plant yn rhywiol sy’n wybyddus i’r awdurdodau
  • Mae 90% o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol gan rywun maent yn ei adnabod
  • Mae tua thraean o gamdriniaethau rhywiol yn cael eu gwneud gan blant a phobl ifanc eraill
  • Mae plant anabl 3 gwaith yn fwy tebygol o gael eu cam-drin na phlant eraill
  • Nid oes stereoteip o gamdriniwr  –  gall fod yn rhywun – ac o unrhyw gefndir cymdeithasol ac economaidd.

Nid yw’r rhan fwyaf o ddioddefwyr camdriniaeth rywiol yn siarad am y peth ac maent yn methu gofyn am help.  Felly, mae’n rhaid i oedolion wneud.  Drwy ddeall y peryglon a gwybod beth i’w wneud os oes gennym bryderon  –  gallwn atal camdriniaeth rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Nod ein hymgyrch yw darparu oedolion gyda’r wybodaeth sydd arnom ei angen i roi mesurau ataliol mewn lle, adnabod arwyddion cam-drin plant yn rhywiol – ac adeiladu’r hyder i wneud rhywbeth amdano.

Mae’r raddfa a’r cyfrinachedd sy’n amgylchynu cam-drin plant yn rhywiol yn golygu bod gennym oll ran i’w wneud er mwyn ei daclo.  Mae gwybodaeth am yr ymgyrch ar gael yma: https://www.stopitnow.org.uk/wales/its-time-we-talked-about-it/

Mae gwybodaeth bellach ac adnoddau ar gael ar wefan Parents Protect!: https://www.parentsprotect.co.uk/

Gallwch ddilyn Stop it Now! Cymru ar Twitter: http://:@StopitNowCymru a dod o hyd iddynt ar Facebook: https://www.facebook.com/stopitnowukandireland/ er mwyn helpu i gefnogi’r ymgyrch a lledaenu negeseuon atal.

Gellir cysylltu â thîm Stop it Now! Cymru ar wales@stopitnow.org.uk am fwy o wybodaeth.

Leave a Comment