Ddylai neb fod yn ofnus gartre
Gyda’r cyfyngiadau diweddaraf mewn grym ledled Cymru, mae’n bwysig bod y rheini sydd mewn perygl o gael eu cam-drin yn gwybod y gallant gysylltu â Byw Heb Ofn o hyd, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Bydd yr ymgyrch yn cael ei ail-hysbysebu ar:
- Y teledu (ITV Cymru, Sky AdSmart ac S4C)
- Radio Rhanbarthol a Chymunedol
- Cyhoeddiadau print Media Wales
- Y cyfryngau cymdeithasol a sianelau digidol gan gynnwys Facebook, Instagram, Google Display, YouTube, Spotify, LinkedIn
Rydym yn defnyddio’r un deunyddiau creadigol ar gyfer y teledu a’r radio, gyda fersiynau wedi’u diweddaru ar gyfer sianeli eraill sy’n atgyfnerthu elfen y gaeaf ac yn datblygu’r cysyniad.
Rydym hefyd yn parhau i rannu’r hyfforddiant ar-lein i helpu pobl i adnabod arwyddion trais a chamdriniaeth, gyda dros 41,000 o bobl yn defnyddio’r cwrs ers mis Ebrill.
Mae angen eich help chi arnom unwaith eto i rannu’r ymgyrch ar draws eich rhwydweithiau.
Mae deunyddiau’r ymgyrch yn y pecyn partner sydd ynghlwm a gellir eu lawrlwytho o:
https://llyw.cymru/ddylai-neb-deimlon-ofnus-gartre-deunyddiau neu
https://www.dropbox.com/sh/kfkbezbwl0d8ltp/AAAtDhwUUVBj7gnImi5NQaYba?dl=0
Sut y gallwch chi gefnogi’r ymgyrch
Rhannu ac aildrydar negeseuon o’n sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol @Livefearfree
Tagio’r ymgyrch yn eich negeseuon eich hunain ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio #bywhebofn #livefearfree
Ar eich gwefan, mewn cylchlythyrau, negeseuon e-bost, a thrwy lawrlwytho ac arddangos posteri a rhannu lluniau ar sgriniau digidol sydd ar gael i’r cyhoedd.
Byw Heb Ofn
0808 80 10 800
Neges destun 0786 007 7333
E bost: info@livefearfreehelpline.wales
Sgwrsio byw: https://llyw.cymru/byw-heb-ofn/cysylltwch-byw-heb-ofn