Ymgyrch newydd yn lansio i gefnogi goroeswyr ymosodiadau rhywiol a cham drin rhywiol

Hannah Cassidy

Mae ffilm ac animeiddiad pwerus, newydd wedi’u rhyddhau sy’n disgrifio’r gwasanaethau a’r gefnogaeth a ddarperir gan ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol CAYR yng Nghymru.

https://www.youtube.com/watch?v=FGH6maOGdgc

Cynigia CAYR gefnogaeth ymarferol, meddygol ac emosiynol arbenigol i ddioddefwyr a goroeswyr trais, ymosodiadau rhywiol a cham drin rhywiol, p’un a ydynt yn dewis cynnwys yr heddlu ai peidio.

Os ydych wedi cael eich treisio, wedi ymosod arnoch yn rhywiol neu eich cam drin yn rhywiol ac nad ydych yn gwybod ble i droi, ewch i https://cydweithrediad.gig.cymru/rhaglenni/rhaglen-gwasanaeth-ymosodiadau-rhywiol-cymru/canolfannau-atgyfeirio-ymosodiadau-rhywiol-cayr/

Leave a Comment