Yr Ymchwiliad yn cyhoeddi 50 profiad o gam-drin plant yn rhywiol wedi eu rhannu gyda’r Prosiect Gwirionedd

Hannah Cassidy

Updated on:

Heddiw mae’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol wedi cyhoeddi pum deg profiad o gam-drin plant yn rhywiol a methiant sefydliadol. Cafodd y profiadau eu rhannu gyda Phrosiect Gwirionedd yr Ymchwiliad ac yn dangos catalog o fethiannau gan sefydliadau yn cynnwys clybiau chwaraeon, ysgolion preswyl, meddygfeydd a chynllun mudo plant yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Proffeswraig Alexis Jay: “Wrth ddarllen y profiadau yma, fe wnaeth bregusrwydd a chryfder y dioddefwyr a goroeswyr fy nharo. Yn aml, maent yn disgrifio sut wnaeth sefydliadau a phobl roeddent yn ymddiried ynddynt droi eu chefn pan eu bod angen eu cymorth fwyaf. Dywedodd sawl a ddaeth i gymryd rhan yn y Prosiect Gwirionedd bod nhw’n dymuno i’w profiadau cael eu defnyddio er mwyn amddiffyn eraill. Hoffwn i roi sicrwydd bod eu gwybodaeth yn ganolog i lwyddiant yr Ymchwiliad.”

Dywedodd dioddefwr a goroeswr a gymerodd rhan yn y Prosiect Gwirionedd: “Doedd hi ddim yn hawdd rhannu fy stori, ond fe wnaeth y staff caredig ac empathig fy nghefnogi trwy’r broses. Roeddent wedi gwrando arnaf, fy nghredu ac wedi fy neall. Rhoddwyd llais i mi ac mae hynny mor werthfawr. Am y tro cyntaf teimlaf yn wirioneddol obeithiol y bydd pethau yn newid er y gorau ac efallai bydd y dioddef yn dod i ben. Diolch.”

Gwelwch y cyhoeddiad ar-lein neu lawrlwythwch o’n gwefan: http://www.iicsa.org.uk/victims-and-survivors/experiences-shared

Rydym yn awyddus i sicrhau bod y cofnod parhaol yma o brofiadau yn cael ei gyhoeddi mor helaeth ag sy’n bosib. Byddwn yn ddiolchgar petaech chi’n gallu rhannu hwn gyda’ch cydweithwyr, cysylltiadau a rhyngweithiau cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei gweld gan ddioddefwyr, goroeswyr a phobl broffesiynol. Mae’r Ymchwiliad yn defnyddio #ProsiectGwirionedd.

Os fyddech chi’n fodlon ystyried cyfeirio unigolion yr ydych chi’n cefnogi at y Prosiect Gwirionedd neu roi gwybodaeth am y Prosiect Gwirionedd ar eich gwefan er mwyn sicrhau rydym yn cyrraedd cymaint o ddioddefwyr a goroeswyr ag sy’n bosib gyda’r cyfle o gael eu llais wedi clywed, cysylltwch â ni ar engagement@iicsa.org.uk er mwyn trafod yn bellach.

Gallech ddarganfod mwy am y Prosiect Gwirionedd ar:

Leave a Comment