Lansio Cynllun Oedolyn ar Goll (yn Herbert Protocol)

Bethan Jones

Updated on:

Mae Heddlu Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn treialu Protocol Oedolion Ar Goll newydd (a elwir yn Herbert Protocol) gyda’r nod o “arbed munudau a bywydau” pan mae unigolion sy’n byw mewn Cartrefi Preswyl neu Gartrefi Gofal Nyrsio yn mynd ar goll.

Bydd y cynllun, wedi’i enwi ar ôl cyn-filwr a oedd yn dioddef o dementia, yn cael ei dreialu yng Nghartrefi Gofal ar draws Conwy cyn lledaenu’r cynllun ar draws Gogledd Cymru.

Yn unol â’r cynllun, mae gofyn i aelodau o’r teulu neu ofalwyr lenwi proffil person ‘oedolyn mewn perygl’ am eu hanwyliaid, sydd yn cynnwys gwybodaeth megis eu henw, dyddiad geni, arferion a mynediad i gludiant.

Mae’r ffurflen wedi’i chreu i helpu swyddogion yr Heddlu gyrchu gwybodaeth bwysig a all fod o gymorth i leoli person coll, sy’n byw mewn cartref gofal, cyn gynted â phosib.

Dywedodd Chris Walker (Cydlynydd Diogelu Oedolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy): “Mae gennym sefyllfa ryfedd iawn, ar un llaw mae gennym fenter cynllun peilot newydd, ond nid ydym eisiau gorfod ei ddefnyddio mewn gwirionedd. Beth rwy’n ei olygu wrth ddweud hyn yw, rydym yn gobeithio na fydd pobl yn mynd ar goll, ond os ydynt yn gwneud, mi fyddwn yn gallu eu darganfod cyn gynted â phosib. Drwy arbed munudau, gallwn arbed bywydau.” Mae’r cynllun hefyd yn cynnig cymorth i deulu a ffrindiau gan bod siarad â’r heddlu yno’i hun yn gallu bod yn sefyllfa ingol.”

“Yn ystod y cyfnod brawychus hwn, mae’n bosib y bydd teuluoedd neu ffrindiau yn ei chael hi’n anodd cofio gwybodaeth neu’n gwneud camgymeriadau a darparu gwybodaeth anghywir.” Bydd rhoi’r cyfle iddynt ysgrifennu’r wybodaeth i lawr ymlaen llaw o gymorth i leihau’r straen a deimlant a chynnig cysur iddynt yn ystod amser anodd.

Fel rhan o Wythnos Diogelu Cenedlaethol (14 – 18 Tachwedd 2016), bydd dau weithdy’n cael eu cynnal, i godi ymwybyddiaeth, ar fore 14 Tachwedd yn Venue Cymru, Llandudno i lansio’r cynllun.

Bydd y gweithdy cyntaf ar gyfer darparwyr cartrefi gofal o 9.30am i 11am

Bydd yr ail weithdy ar gyfer gweithwyr proffesiynol aml-asiantaeth o 11.30am i 1pm

I archebu lle yn y gweithdy, ebostiwch hyfforddiantgwasanaethau.cymdeithasol@conwy.gov.uk

NWSB header

Leave a Comment