Wythnos Ddiogelu Genedlaethol Cymru 14 i 18 Tachwedd 2016

Pauline Bird

Nod yr Wythnos Ddiogelu yw darparu digwyddiadau codi ymwybyddiaeth ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i atgyfnerthu’r negeseuon o gwmpas diogelu. Codi ymwybyddiaeth o rôl ‘pawb’ wrth ddiogelu oedolion diamddiffyn sydd mewn perygl a thynnu sylw at y cymorth a’r ymyrraeth sydd ar gael yng Ngogledd Cymru.

Bydd stondinau marchnad a stondinau gwybodaeth yn cael eu cynnal mewn ardaloedd a fydd yn rhoi cyfle i ystod o asiantaethau ddarparu gwybodaeth am eu gwasanaethau a’u sefydliadau i aelodau o’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.

Cynlluniwyd Cynhadledd Diogelu Oedolyn hefyd ar gyfer 17 Tachwedd, sy’n canolbwyntio ar Adolygiadau Ymarfer Oedolion gan edrych ar y broses, y rolau a’r cyfrifoldebau a’r dysgu.

Y gobaith yw y bydd yr amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau yn cynyddu gwybodaeth am faterion diogelu ac yn helpu cael effaith gadarnhaol ar ymddygiad ac agwedd fel bod lles a diogelwch mwy o oedolion sydd mewn perygl yn cael eu hyrwyddo.

Leave a Comment