16 DIWRNOD O WEITHREDU I ROI TERFYN AR DRAIS YN ERBYN MERCHED A DIWRNOD Y RHUBAN GWYN 2021!

Pauline Bird

25 Tachwedd mae’n Ddiwrnod y Rhuban Gwyn! Heddiw, ac am yr 16 diwrnod i roi terfyn ar drais yn erbyn merched sy’n dilyn, rydym yn gofyn i bobl yn eu cymunedau, sefydliadau a gweithleoedd ddod at ei gilydd, a dweud ‘na’ i drais yn erbyn merched.  

Diolch i filoedd o bobl fel chi, mae modd i ni ledaenu’r neges bod rhaid dod â thrais gan ddynion yn erbyn merched i ben. Gall pob dyn wneud gwahaniaeth. #AllMenCan yw’r brif neges eleni. Cyflwynwyd y syniad ym mis Mawrth yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard a blannodd hedyn ym meddyliau pawb am brofiadau merched o drais dynion. Fe wnaeth hefyd ddechrau’r sgwrs am ddynion yn gweithredu a gwneud safiad. Mae arnom ni eisiau i gymaint o ddynion â phosibl feddwl yn ofalus a gwneud Addewid Rhuban Gwyn i beidio â threisio, esgusodi nac aros yn dawel ynglŷn â dynion yn treisio merched.

Leave a Comment