Arweiniad Aml-Asiantaeth i Gefnogi Gweithwyr wedi’u heffeithio gan Ddigwyddiadau Tyngedfennol

Pauline Bird

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi cymeradwyo’r ddogfen Arweiniad Aml-Asiantaeth yn ffurfiol. Mae’r canllawiau aml-asiantaeth hyn yn dangos ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth rheoli straen digwyddiadau tyngedfennol yng ngogledd Cymru. Mae’n mynd i’r afael yn benodol â darparu gwasanaeth ôl-drafodaeth ar ddigwyddiadau tyngedfennol i staff sy’n cefnogi plant ac oedolion yng ngogledd Cymru.

Nid yw’r ddogfen arweiniol hon yn disodli unrhyw broses fewnol sydd gan asiantaeth unigol ond, yn hytrach, mae’n cefnogi asiantaethau i sicrhau bod gennym ymrwymiad clir ar draws gogledd Cymru i gefnogi staff.

Cliciwch ar y ddolen isod i weld y polisi

Cymraeg-multi-agency-guidance-for-the-support-of-employees-affected-by-critial-incidents.

Leave a Comment