AYO2/2016Conwy

Pauline Bird

Cafodd yr Adolygiad Ymarfer Oedolion Estynedig hwn ei gomisiynu gan Gadeirydd Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2016 er mwyn ystyried pa wersi y gellid eu dysgu yn dilyn marwolaeth drist Claf A ym mis Mawrth 2015.  Cafodd Cadeirydd Annibynnol ei benodi a chafodd dau Adolygwr annibynnol gyda chefndir arbenigol mewn Gofal Iechyd eu comisiynu i gynnal yr adolygiad.

Cafodd yr adolygiad ei gynnal yn dilyn atgyfeiriad Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA) i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.  Daeth yr ymchwiliad POVA dilynol i’r casgliad fod Claf A, yn ôl pob tebyg, wedi dioddef niwed sylweddol o ganlyniad i esgeulustod anfwriadol.  Gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy atgyfeiriad Adolygiad Ymarfer Oedolion ar 18/3/16 i Fwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru.

Cafodd themâu dysgu allweddol eu nodi drwy’r broses adolygu a gwnaethpwyd argymhellion ynglŷn â:

Cyfathrebu
Llwybrau atgyfeirio ar gyfer Pryderon Clinigol
Archwiliad a thriniaeth glinigol
Cydlynu Gofal a Pharhad Gofal
Materion Strategol
Gweithredir ar yr argymhellion hyn drwy gynllun gweithredu er mwyn sicrhau fod partneriaid yn ymgymryd â’r gwaith o ddysgu gwersi allweddol gyda Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru a bydd y Bwrdd yn goruchwylio’r cynnydd a wneir.

Mae Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru wedi dilyn y broses a fanylwyd yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016 – Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl (Rhifyn 3 – Adolygiadau Ymarfer Oedolion).

Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad yn yr Adran APR o’r Wefan.

Gadael sylw