Dywedwch wrthym am eich profiadau o wasanaethau gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru a sut y gallem eu gwella.
Mae’r arolwg ar-lein ar gael yn https://online1.snapsurveys.com/kdzqex
Mae’r arolwg hwn bob amser ar gael, nid oes dyddiad cau wedi’i gynllunio. Gallwch ei rannu gyda chydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth, aelodau o’r cyhoedd, busnesau lleol, mudiadau gwirfoddol… mewn gwirionedd rhannwch ef gydag unrhyw un a phawb, gan ein bod am glywed gan bob rhan o’n cymunedau. A gallwch ddefnyddio’r arolwg pryd bynnag y bydd gennych rywbeth i’w ddweud, hyd yn oed os ydych chi wedi rhannu eich meddyliau a’ch syniadau gyda ni o’r blaen.
Byddwn yn defnyddio eich adborth i helpu i lunio ein gwaith rhanbarthol. Byddant yn cael eu defnyddio wrth i ni adolygu ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth a’n Cynllun Rhanbarthol, a byddwn yn trosglwyddo sylwadau a syniadau i bobl a sefydliadau a fydd yn eu cael yn ddefnyddiol.
Yn ogystal â’r ddolen i’r arolwg, mae gennym hefyd god QR y gallwch ei ddefnyddio i’n helpu i hyrwyddo’r arolwg a’n gwaith ymgysylltu.
Dolen ar-lein: https://online1.snapsurveys.com/kdzqex
Cod QR:

Diolch am eich cefnogaeth – os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni yn hcargc@sirddinbych.gov.uk.



