Mewn partneriaeth gyda’r Dogs Trust mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru’n gweithio i hyrwyddo ymwybyddiaeth o sut i ddysgu diogelwch i blant o amgylch cŵn yn ystod Wythnos Diogelwch Plant (3 – 7 Mehefin).
Yn anffodus, maen nifer uchel o frathiadau cŵn yn digwydd i blant yn y cartref. Gyda chyfradd derbyniadau i’r ysbyty yn ymwneud â brathiadau cŵn uchaf ymysg plant yn y grŵp* 0 a 9 mlwydd oed, mae angen dybryd i addysgu plant a theuluoedd ar sut i ymddwyn o gwmpas cŵn. *data GIG am dderbyniadau i’r ysbyty oherwydd brathiadau cŵn
Gan gydweithio gyda gwasanaethau plant, rydych ar y rheng flaen o ran siarad â phlant a theuluoedd, felly rydych yn addas iawn i basio ein gwybodaeth bwysig ymlaen a helpu i leihau’r damweiniau hyn y gellir eu hosgoi.
Dyma rhai awgrymiadau gwych ar y gyfer y teulu cyfan:
• Byddwch yn dawel – dim synau uchel, rhedeg, gemau rhedeg ar ôl a all beri pryder i gi.
• Byddwch yn garedig – peidiwch â phryfocio ci gyda theganau na bwyd.
• Dylid gadael i gŵn fod wrth iddynt fwyta, cysgu neu chwarae â thegan.
• Gwyliwch beth mae’r ci yn ei wneud a beth mae iaith eu corff yn ei ddweud wrthych.
Peidiwch â gadael eich plentyn gydag UNRHYW gi, dim ots pa mor dda rydych yn eu hadnabod.
Ewch i wefan y Dogs Trust i dderbyn rhagor o wybodaeth.