Camdriniaeth Pobl Hŷn

Pauline Bird

Yn hanesyddol mae ymdriniaethau cysylltiedig â chamdriniaeth
ddomestig wedi canolbwyntio’n bennaf ar drais partneriaid. Yn fwy diweddar mae cam-drin teuluol a rhyng-genhedlaeth wedi’i gydnabod, yn benodol sut y mae’n wahanol i gam-drin domestig o fathau eraill. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn dweud bod rhyddid rhag camdriniaeth ac esgeulustod yn hanfodol bwysig i les unigolyn.

Yn ôl y Cyngor Cenedlaethol ar Heneiddio (NCOA), mae pobl hŷn yn fwy tebygol o wneud adroddiadau o ecsbloetiaeth ariannol nag o gamdriniaeth neu esgeulustod emosiynol, corfforol neu rywiol. Yn ôl NCEA esgeulustod yw’r math mwyaf cyffredin o gamdriniaeth pobl hŷn. Gall rhieni a pherthnasau eraill ddioddef camdriniaeth gorfforol a rhywiol drwy law oedolion a phobl ifanc.

Live Fear Free

OS OES PERYGLON UNIONGYRCHOL CYSYLLTWCH Â’R HEDDLU.
Lansiwyd yr ymgyrch ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ yn ystod y pandemig coronafeirws i roi gwybod i’r rhai sydd mewn perygl bod help yn dal ar gael, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos drwy ‘Byw Heb Ofn’.

Leave a Comment