CERDD GOFALWR YN DOD YN FYW MEWN HYSBYSEB DELEDU

Pauline Bird

Mae cerdd gofalwr am ei swydd wedi dod yn fyw ar ffurf hysbyseb deledu, a grëwyd gan ymgyrch Gofalwn Cymru.

Mae’r hysbyseb yn cynnwys llais Emma Pinnell sy’n darllen “Just a Carer”; cerdd yr ysgrifennodd ar gyfer rhaglen Rhod Gilbert’s Work Experience, a ffilmiwyd yng nghartref gofal College Fields y Barri.

Gwyliwyd clip ohoni yn darllen y gerdd dros 1.6 miliwn o weithiau ar dudalen Facebook BBC Cymru, gan ddenu miloedd o negeseuon cefnogol o bedwar ban byd.

Caiff yr hysbyseb ei darlledu am y tro cyntaf heddiw ar ITV ar ôl Paul O’Grady’s For the Love of Dogs am 8:58yh. Caiff hefyd ei dangos ar wasanaethau On Demand Channel 4, gyda fersiwn wedi’i chyfieithu ar gyfer S4C.

Er mwyn helpu i ddod â geiriau Emma yn fyw, mae hefyd yn cynnwys casgliad o glipiau a ffilmiwyd mewn cartrefi gofal ledled Cymru yn ystod cyfyngiadau’r feirws. Mae’r clipiau’n dangos sut mae gofalwyr yn mynd y tu hwnt er mwyn sicrhau bod ysbryd pawb yn uchel a helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid trwy ddefnyddio technoleg.

Dywedodd Emma Pinnell, Gofalwr: “Dwi wedi synnu bod y gerdd wedi denu cymaint o ddiddordeb ac mae’n anrhydedd cael ei chynnwys mewn hysbyseb deledu ar gyfer Gofalwn Cymru.

“Mae’n tynnu sylw at y gwaith anhygoel y mae gweithwyr gofal yn ei wneud bob dydd i sicrhau fod y bobl maen nhw’n gofalu amdanynt yn hapus, boed hwy’n gofalu am bobl mewn cartrefi gofal neu yn eu cartrefi eu hunain.

“Dwi’n gobeithio bod fy ngherdd wedi helpu pobl i feddwl yn wahanol am waith gofal a’r hyn y mae’n ei olygu. Mae’n fraint cael gofalu am rywun arall pan maent ei angen fwyaf. Rwy’n annog pawb sydd wedi ystyried gweithio yn y maes gofal i roi cynnig arni, efallai mai dyna fydd y swydd orau a gawsoch erioed.”

Lansiwyd ymgyrch Gofalwn Cymru flwyddyn yn ôl i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r sector gofal cymdeithasol. Nod yr hysbyseb yw helpu i ddenu mwy o bobl fel Emma, ​​sydd â’r sgiliau a’r gwerthoedd cywir, i ystyried gweithio yn y maes gofal.

Ar hyn o bryd, mae’r ffocws ar sut mae’r sector yn ymdopi yn ystod y coronafirws ac mae’r hysbyseb hon yn tynnu sylw at pa mor bwysig yw gofalwyr – nhw yw’r cymorth sydd ei angen ar ein cymuned.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae yna gamsyniad cyffredin bod swydd gofal yn un ag iddi sgiliau isel, un y gall unrhyw un ei gwneud, ond fel y mae Emma’n cyfleu’n berffaith yn ei cherdd, mae hynna’n bell o’r gwirionedd. Mae’n swydd heriol ond gwerth chweil i’r person iawn. Un sy’n gofyn am sgiliau a gwerthoedd penodol, gan gynnwys amynedd, dealltwriaeth, gofal a thosturi.

“Yn yr amseroedd digynsail hyn, mae ein gweithwyr gofal wedi dangos pa mor werthfawr ydyn nhw a pha mor hanfodol yw eu gwaith. Mae ein gweithwyr gofal rheng flaen wedi parhau i ddarparu gofal a chefnogaeth ragorol i’n oedolion a’n plant mwyaf bregus trwy gydol y cyfnod hwn – mewn amgylchiadau heriol yn aml.

“Rwy’n diolch iddynt am eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb, ac yn gobeithio, wedi’r argyfwng hwn, y bydd gweithwyr gofal yn cael y gydnabyddiaeth a’r gwerthfawrogiad y maent yn ei haeddu or diwedd – nawr a hyd byth.”

Ychwanegodd Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r sefyllfa bresennol wedi rhoi sylw haeddiannol i weithwyr rheng flaen y sector iechyd a gofal. Ddydd ar ôl dydd, mae miloedd o ofalwyr yn dal i helpu eraill i gadw’n ddiogel ac yn iach, ac mae’r cymorth hwn wedi dod yn fwy hanfodol byth yn ystod y cyfnod hwn.

“Mae geiriau Emma yn crisialu gwir ystyr yr hyn ydyw i fod yn ofalwr; ymroddgar, hynod fedrus a gyda chyflenwad ymddangosiadol diddiwedd o feddylgarwch a gras. Hoffwn gynnig Diolch yn fawr iawn i Emma ac i bob gofalwr ledled Cymru.”

Mae porth swyddi ar-lein bellach yn fyw i helpu cyflogwyr gofal cymdeithasol i lenwi swyddi gwag ar frys  er mwyn ymdopi â’r galw. Ers ei lansio ar ddechrau’r cyfyngiadau, mae dros 13,750 o ymwelwyr wedi edrych trwy dros 800 o swyddi gwag yn y maes gofal.

I chwilota’r swyddi gwag ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, ewch i Gofalwn.cymru/swyddi

Leave a Comment