Codymau a Diogelu Oedolion

Pauline Bird

Ni ddylid meddwl am godymau fel rhan annatod o heneiddio. Dylid ystyried codwm yn ddigwyddiad y mae angen ei gwestiynu ac ymchwilio iddo i’w atal rhag digwydd eto. Mae posib atal nifer o godymau ac anafiadau o ganlyniad i godwm, ond nid pob un, yn enwedig o fewn lleoliad cartref gofal lle mae rhai o unigolion mwyaf bregus a dibynnol ein poblogaeth yn byw.

Fodd bynnag, fe ddylem ni ddefnyddio dull ataliol o fynd ati i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Caiff arferion gorau eu hategu gan asesiad risg priodol, gofal a chynllunio cymorth unigol, cyfathrebu da ymysg y tîm a dilyn gweithdrefnau ar ôl codwm, gan gynnwys rhoi gwybod am y digwyddiad.

Pryd y dylech chi roi gwybod am godwm fel pryder diogelu

Fe ddylech chi roi gwybod am bryder diogelu yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Pan fo pryder am gamdriniaeth neu esgeulustod posibl gan berson arall
  • Pan fo pryder cyffredinol am ddiogelwch unigolyn, cysylltwch â’r person priodol, h.y. aelod teulu, gweithiwr proffesiynol ac ati
  • Pan nodir bod unigolyn mewn perygl o gael codwm, ac mae yna bryder na chynhaliwyd asesiad risg priodol ac nad oes ganddo/ganddi gynllun gofal a chymorth neu nad yw’n cael ei ddilyn, h.y. mae yna dystiolaeth o esgeulustod
  • Pa fo unigolyn yn cael codwm, sydd neu sydd ddim yn arwain at niwed, a bod pryder na chynhaliwyd asesiad risg priodol ac nad oes ganddo/ganddi gynllun gofal a chymorth neu nad yw’n cael ei ddilyn, neu nad yw’r cynllun gofal a chymorth yn cael ei ddiweddaru yn dilyn y codwm, h.y. mae yna dystiolaeth o esgeulustod
  • Unrhyw godwm pan mae yna amheuaeth o gamdriniaeth neu esgeulustod ar ran aelod staff neu unigolyn arall, neu pan na ddilynwyd y cynlluniau gofal a chymorth, y polisïau na’r gweithdrefnau priodol
  • Pan fo niwed sylweddol neu sylweddol iawn wedi digwydd o ganlyniad i’r codwm
  • Pan fo unigolyn wedi cael anaf, ar wahân i fân anaf, nad oes eglurhad amdano
  • Pan na cheisiwyd sylw meddygol priodol yn dilyn codwm
  • Pan na chymerwyd mesurau priodol i sicrhau diogelwch yr unigolyn o safbwynt ei amgylchedd, gan gynnwys osgoi niwed gan gleientiaid eraill/ gwasanaeth arall
  • Pan fo sawl digwyddiad wedi codi pan nad yw’n amlwg bod cyngor na chymorth proffesiynol wedi’i geisio ar yr amser priodol.

Leave a Comment