Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Deall profiadau pobl hŷn o gam-drin domestig

Pauline Bird

Ar ddechrau’r pandemig, sefydlodd y Comisiynydd grŵp gweithredu o sefydliadau i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt os ydynt yn cael eu cam-drin, neu mewn perygl o hynny, ac i godi ymwybyddiaeth o’r cam-drin hwn ymysg gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd.

Wrth i’r Mesur Cam-drin Domestig fynd drwy’r Senedd, mae’r Comisiynydd wedi bod yn gweithio gydag aelodau Tŷ’r Arglwyddi i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn yn cael eu hadlewyrchu yn y trafodaethau ynghylch y ddeddfwriaeth. Un maes allweddol i’w wella yw casglu data sy’n ymwneud â phrofiadau pobl hŷn o gam-drin domestig.

Ysgrifennodd y Comisiynydd at Syr Ian Diamond, ystadegydd cenedlaethol y DU, ar ran y grŵp gweithredu ym mis Tachwedd 2020 i gyflwyno’r achos dros Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr i ddileu’r terfyn oedran uchaf o 74 ar gyfer casglu data sy’n ymwneud â cham-drin domestig. Yn dilyn y galwadau hyn, yn ogystal â chefnogaeth gan fudiadau eraill, gan gynnwys Age UK, cadarnhawyd nawr y bydd y terfyn oedran hwn yn cael ei ddileu, a bydd data’n dechrau cael eu casglu ar gyfer pob oed. Bydd y Comisiynydd yn cyfarfod â Syr Ian Diamond dros yr wythnosau nesaf i drafod sut bydd hyn yn cael ei ddatblygu. Darllenwch ddatganiad llawn y Comisiynydd yn croesawu’r cyhoeddiad

Leave a Comment