Mae Adolygiad Ymarfer Plant Gwynedd dan arweiniad Jan Pickles OBE yn parhau i gyfarfod gyda gweithwyr proffesiynol perthnasol ac aelodau o’r cyhoedd sydd â gwybodaeth y teimlant y bydd yn cefnogi’r broses adolygu.
Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn darparu diweddariadau rheolaidd i Uned Diogelu ac Eiriolaeth Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynnydd yr adolygiad, er ar hyn o bryd nid oes disgwyl i adroddiad yr adolygiad gael ei gwblhau nes ddiwedd y gwanwyn 2025.
Mae’r Panel Adolygiad Ymarfer Plant yn parhau i adolygu’r cyfnod amser y mae’r adolygiad yn ymdrin ag o, yn ogystal â’r Cylch Gorchwyl er mwyn adlewyrchu unrhyw bryderon newydd y mae’r adolygiad wedi eu canfod.
Mae’r Panel Adolygu wedi canolbwyntio ar faterion allweddol megis ymddygiad y troseddwr ac ymddygiad proffesiynol. Mae trefniadau llywodraethu a rheoli datgeliadau hefyd dan ystyriaeth yn yr adolygiad.
Dywedodd Jenny Williams, yn ei rôl fel Cadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru, “Bydd gwersi o’r adolygiad yn helpu i adnabod y gwelliannau sydd angen eu gwneud i systemau diogelu yn ogystal â threfniadau ar gyfer amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol a cham-fanteisio.”
Gellir anfon unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r adolygiad at Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru trwy’r cyfeiriad e-bost rhanbarthol reviews@denbighshire.gov.uk


