Beth yw’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein?
Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn gyfres newydd o gyfreithiau sy’n diogelu pawb rhag cynnwys anghyfreithlon ar-lein, ac sy’n diogelu plant rhag cynnwys niweidiol.
Mae’n gwneud cwmnïau technoleg yn gyfreithiol gyfrifol am ddiogelwch eu defnyddwyr. Ac mae’n rhoi pwerau i Ofcom fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein i orfodi’r cyfreithiau hyn – gan gynnwys cymryd camau yn erbyn cwmnïau nad ydynt yn cydymffurfio â’u dyletswyddau diogelwch ar-lein.
Bydd pob safle ac ap y gallai plant eu defnyddio – p’un a ydynt yn cael eu defnyddio ar ffôn clyfar, tabled, cyfrifiadur neu lwyfan gemau – yn gorfod ddilyn ein rheolau newydd, er mwyn i blant gael profiadau mwy diogel ar-lein.
Ydy’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn atal plant rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol?
Nid yw’r ddeddf yn gwahardd plant rhag cyfryngau cymdeithasol, ac nid yw’n pennu isafswm oedran iddynt eu defnyddio. Mae’n dweud bod yn rhaid i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol orfodi eu cyfyngiadau oedran yn gyson a diogelu eu defnyddwyr sy’n blant – ond dylai rhieni fod yn ymwybodol nad oes gan rai gwefannau ac apiau poblogaidd unrhyw ofynion oedran sylfaenol i’w defnyddwyr.
Ac er ein bod yn gwerthfawrogi bod cryn drafod wedi bod ynghylch a ddylai plant – neu pryd y dylai plant – allu bod yn berchen ar ffonau clyfar, nid yw’r ddeddf yn delio â hyn felly nid oes gan Ofcom unrhyw bwerau cyfreithiol yn y maes hwn.
Ond bydd y newidiadau y bydd yn rhaid i safleoedd ac apiau eu gwneud o ganlyniad i’n rheolau, yn sicrhau bod plant o bob oed yn fwy diogel ar-lein.





